麻豆官网首页入口

Deuawd Aled Jones Williams

04 Awst 2010

Aled Jones Williams

Siarad ar ddamehegion

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Chwilysa Merched Eiragan Aled Jones Williams - cynhyrchiad Tandem a Bara Caws yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent.

Y maeChwilys gan Aled Jones Williams yn stori gyffrous. Yn ddrama am lofrudd proffesiynol a anfonwyd i ladd darlithydd prifysgol ac yntau ar ei ffordd i lansio llyfr.

Mae, hefyd, yn ddrama sy'n adlewyrchu'r paranoia yngl欧n 芒 therfysgwyr sy'n bodoli ledled y byd, paranoia a ysgogir gan ein llywodraethau.

Mae'n drama sy'n herio'r gynulleidfa ac y mae disgwyl inni fod yn effro i'r cliws sy'n cael eu gollwng bob yn ddiferyn wrth i'r ddrama fynd rhagddi.

Mae Dyn 1 (Owen Arwyn Owen) yn paratoi i fynd allan i lansiad ei lyfr, yn ymarfer ei anerchiad ac yn dechrau gwisgo ar gyfer y noson. Mae elfen swreal i'r ddrama ac y mae hwn yn cychwyn pan fo Dyn 1 yn agor drws ei wardrob a daw Dyn 2 (Martin Thomas) allan.

Mae Dyn 2 yn drwsiadus a hyderus a wedi iddo dynnu ei siaced gwelwn bod gwn dan ei gesail. Mae yma fygythiad a thyndra o'r cychwyn a hwnnw'n cael ei gynnal ar lefel uchel gydol y perfformiad.

Yn ogystal 芒'r gwn, buan y gwelwn fod gan Dyn 2 offer poenydio ac y mae'n ymroi i orfodi Dyn 1, y darlithydd, i gyfaddef pob math o weithredoedd gan gynnwys bod yn derfysgwr a bomiwr.

Y carchar Americanaidd yn Guantanamo ddaw i'r meddwl, a'r arteithio yn Abu Ghraib - poenydio'r diniwed sydd heb ddim i'w ddatgelu.

Ond a yw'r darlithydd parchus mor ddiniwed ag yr ydym ni - y gynulleidfa - am gredu? Mae'r diferion o amheuon yn cael eu cyflwyno nawr ac eilwaith, er heb fod yn or-amlwg.

Mae amryw o lefelau i'r ddrama a mater i'r gynulleidfa fel unigolion yw penderfynu beth yw'r gwir, ond fe geir tro sydyn yn y gynffon ac yr oedd y diweddglo yn un nad oeddwn i'n gwbl gysurus ag e.

Yr oedd safon cynhyrchiad Tandem a'r actio yn y perfformiad yn Theatr Beaufort neithiwr yn ardderchog. Gwych gweld drama fentrus, gyfoes, heb ofn mynd i'r afael 芒 phynciau ddylai fod yn achos gofid i ni. Yr oedd y ddeialog yn ysgubol, yn farddoniaeth yn fynych, a'r cyfan yn her i'r gynulleidfa.

Merched Eira

Cyfnither oedd y ddrama arall, Merched Eira, yn 么l Aled Jones Williams, hon eto'n cael ei chyflwyno neithiwr yn Theatr Beaufort, Glyn Ebwy. Os oedd Chwilys yn dywyll a sinistr, yr oedd mwy o ysgafnder yn perthyn i hon.

Ond perthyn yr elfen swreal i hon, hefyd.
Dwy ddynes yn dianc o gartref hen bobol yw Edna (Gaynor Morgan Rees) ac Edith (Olwen Rees) gydag awgrym eu bod yn ceisio dianc o grafangau henaint yr un pryd.

Mae gwendid henaint yn effeithio'r ddwy ac y mae eu anhapusrwydd gyda'u lle yn y cartref yn glir. Dim ond pobol eraill sy'n gweld y cartref fel lle "neis".

Mae'r stori'n cychwyn gyda'r ddwy yn cyrraedd rhywle lle mae'r eira ar lawr, a hwythau wedi bwriadu mynd i rywle gyda'r haul yn gynnes a braf.

Cawn yr argraff eu bod yn gyfeillion da drwy holl benwendid henaint. Ond y mae yna hen hanes, sef i Edna fod yn cyboli gyda g诺r Edith - ac wedi cychwyn yr edliw mae pethau'n troi'n gas.

Drama sy'n goleuo peth ar gornel dywyll o fywyd, y cyfnod hwnnw pan yw ailblentyndod yn llithro tua marwolaeth.

Cawn y ddeialog finiog sy'n nodwedd o'r llall, ac y mae llawer o le i aelodau'r gynulleidfa ddod i'w casgliadau eu hunain am yr hyn sy'n digwydd.

Gwelsom awgrymiadau cyfrwys fod eu byd yn llithro oddi ar ei echel gyda'r celfi llwyfan ychydig yn gam.

Eto yr oedd y cynhyrchu a'r actio yn benigamp. Cwmni Bara Caws oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad hwn.


Blogiau 麻豆官网首页入口 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.