Tlws y Cerddor am yr eilwaith
05 Awst 2010
![Christopher Painter ar y llwyfan](/staticarchive/b2c83e8827c3ec13eaac6b9e91fcd3ccdbe5ee50.jpg)
Christopher Painter o'r Barri yw enillydd Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd.
Rhoddwyd y tlws am gyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer cyfuniad o un llais a dau offeryn mewn unrhyw arddull addas, heb fod yn hwy nac wyth munud o hyd.
Y beirniaid oedd Mervyn Burtch a Geraint Lewis.
Derbyniwyd naw o geisiadau am y tlws a gwaith 'Harri-Ifor' a ddaeth i'r brig eleni.
Enillodd Christopher wobr Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005 am ei waith siambr, Yr Hanes Swynol. Roedd hwn yn anrhydedd arbennig oherwydd bod ei hen daid, y cyfansoddwr a'r bardd, Thomas Owen David, wedi bod yn aelod o'r Orsedd dan yr enw, Owain ap Japheth.
Meddai Geraint Lewis wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan: "Dyma gyfansoddwr sy'n hollol hunanfeddiannol wrth ddewis ei gyfryngau cerddorol ac yn deall yn reddfol sut i osod geiriau. Dyma ganu siambr yn nghwir ystyr y syniad ac mae'n ennill Tlws y Cerddor eleni gyda chanmoliaeth uchel".
Mwy
Blogiau 麻豆官网首页入口 Cymru
:
![Nia Lloyd Jones](http://www.bbc.co.uk/cymru/blogiau/images/users/nia_lloyd_jones.jpg)
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...