Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwilym Owen Gwilym Owen - dydd Iau
Y rhai sydd ar y map
Hawddamor o Faes Steddfod Fawr Snowdonia ar fore Iau.
Maes lle yr ydw i wedi cael mwy o drafferth nag arfer yn dod o hyd i ambell stondin.

Oes, mae yna fap ardderchog ar gael - ond dydi popeth ddim ar y map.

Er enghraifft fe gyfeirir at stondin papur Y Byd - sydd ddim wedi ymddangos eto - ond does dim sôn o gwbl am babell Y Cymro sydd efo ni ers degawdau.
Rhyfedd 'te!

Ambell i ergyd
Rhyfedd hefyd oedd nodi fod Hafina Clwyd yn un o'i hamrywiol golofnau yn awgrymu y dylid cael saethu colomennod clai ar Faes y Brifwyl i ddenu mwy o ymwelwyr.

Yn bersonol mi allwn i feddwl am lawer o bethau eraill y gellid rhoi bwled ynddyn nhw er mantais i ddyfodol yr Å´yl.

Ffurf gweithredu
Ac efallai y dylai aelodau Gorsedd y beirdd ystyried eu dyfodol hefyd fel aelodau o lys y Steddfod ar ôl cael cyfansoddiad newydd.

Sgwn i ydi'r mil saith gant ohonyn nhw yn ymwybodol fod disgwyl iddyn nhw anfon ffurflen gais i'r Sanhedrin cyn diwedd y mis yma neu allan ar y clwt y bydda nhw.

Pwnc y dylid rhoi sylw iddo yn y cyfarfod blynyddol y bore ma debygwn i.

Anrhydedd byd
Mae Prifwyl eryri wedi profi un peth o leia - fod cyrsiau sgwennu creadigol ein Prifysgol yn bethau gwerth eu dilyn. Mae enillydd gwobr goffa Daniel Owen wedi profi hynny.
Gwych iawn.

A gwych hefyd oedd gweld bos y cylchgrawn Golwg yn cael ei anrhydeddu fel Prif lenor Steddfod Snowdonia.

Dylan IorwerthDyma'r ail dro i Dylan Iorwerth dderbyn un o brif anrhydeddau'r Brifwyl.

Sgwn i pryd y gwelwn ni rywun o staff olygyddol Y Byd yn esgyn i'r llwyfan i mofyn Medal, Coron neu Gadair.

Bydd hwnnw yn ddiwrnod mawr yn wir!
Hynny ydi, os bydd na Steddfod bryd hynny!

Rhy hwyr
Rydym ni'r Cymry yn arbenigwyr mewn un maes anffodus - sef cau drysau stablau ar ôl i'r ceffyl ddianc.

Ac mae rhai wedi profi hynny ar y Maes yma.

Dyna ichi'r deugain o drigolion Sir Y Fflint a ddaeth at ei gilydd i drafod y posibilrwydd o roi cartref i Brifwyl 2007.

Ble gebys maen nhw wedi bod cyhyd.

Mae'r argyfwng - sori, defnyddio'r gair - wedi rhygnu mlaen ers misoedd.

Bled a chi wedi bod hogia bach?

Ymadawedig
Golygfa gofiadwy bnawn ddoe oedd Llywydd y Dydd, Dafydd Wigley, yn annerch o'r llwyfan ac yn argymell peidio troi cefn ar wahoddiad Dinas Lerpwl i gynnal Prifwyl 2007.

GadaelWedyn, y cyn Archdderwydd Robyn LlÅ·n yn codi o'r rhes flaen ac yn cerdded allan o'r pafiliwn mewn protest.

Sefyllfa drist. Cyn lywydd a chyn is lywydd Plaid Cymru yn amlwg yn anghytuno'n llwyr.

Biti, biti. Ond fyddai Steddfod ddim yn Steddfod heb bennod o'r fath!

Y genedl hon
A dyna pam, efallai, fod Guto Harri wedi dewis siarad ar y pwnc, Cymreictod cyfoes - haws troi'n alltud ym Mhabell y Cymdeithasau yn nes ymlaen y bore ma.

Efallai ei fod ef fel minnau yn teimlo weithiau ein bod ni'n genedl cwbl boncyrs!

Mwy o storiau Dydd Iau


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý