Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwilym Owen Gwilym Owen - dydd Mawrth
Yr olwynion yn troi
Hawddamor o Faes Prifwyl Fawr Snowdonia ar fore Mawrth.
Ac erbyn hyn mae olwynion y jyncet fawr yn troi go iawn.

A thra'n sôn am olwynion mae'n deg cyfaddef fy mod i a'r rheiny fu'n codi bwganod am drafferthion traffig ym mro'r Steddfod wedi cael ein profi'n anghywir.

A gobeithio mai felly y pery hi.

Bws bws
Ond biti, biti - chafodd aelodau Gorsedd y Beirdd ddim cyfle i roi perfformans yng nghylch y meini plastig ddoe. Bwsiau Gormod o fwd ar y maes i'r creaduriaid cobannog orymdeithio i'r cylch falle.

Doedd dim amdani, felly, ond cael rhes o fysus i fynd â nhw i Neuadd Pritchard Jones yn y coleg ym Mangor i fynd drwy'u pethau.

A thrwy hynny, wrth gwrs, greu mwy fyth o fwd ar y Maes i bawb arall.
Ie wir, joli iawn.

Er cof
Ac mae'n debyg mai heddiw ar y Maes yma y gwelwn ni yr arwydd cyntaf nad ydi Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn bwriadu marw'n dawel cyn cael ei daflu ar goelcerth cwangos Rhodri Morgan - ac y cawn ni fwy o gicio'r tresi ddydd Iau pan fydd yr Athro Colin Williams yn cyflwyno darlith fel aelod o'r Lingo Cwango.

Go brin y bydd gwrthryfel o'r fath ar y Maes yn plesio y gweinidog iaith a diwylliant.

Ie, Alun Pugh, y feri dyn sy'n ystyried dyfodol ariannol y Steddfod.
Och!

Be nesa
A diddorol oedd gweld fod cymdeithas Cledwyn - cymdeithas Gymraeg y Blaid Lafur a gyfarfu ym Mhabell y Cymdeithasau wedi dewis trafod y pwnc, Ble nesa i Ewrop?
Ond o gofio fod dyfodol y Brifwyl yn dibynnu cymaint ar gefnogaeth ariannol llywodraeth eu plaid nhw yn y Cynulliad Cenedlaethol oni ellid fod wedi ystyried Ble nesa i'r Brifwyl? fel pwnc eleni - inni gael gweld sut mae'r gwynt yn chwythu.

Dysgu godro
Ac er nad ydi'r Archdderwydd newydd yn fodlon siarad Saesneg ar y Maes mae o wedi cytuno i gymryd rhan y bore ma mewn cystadleuaeth godro efo llaw ar stondin yr NFU.

Y fo, fe ymddengys, ydi'r unig bwysigyn eisteddfodol sy'n cymryd rhan.
vTrueni am hynny, gallai'r profiad fod yn werthfawr i holl aelodau'r Sanhedrin o gofio'r angen i odro'r coffrau cyhoeddus y dyddiau hyn.

Ymbincio
A gorffen efo sibrydion i godi calon cefnogwyr yr hen grŵp poblogaidd, Y tebot Piws.

Y sôn ydi eu bod nhw wedi dod yn ôl i recordio cân newydd sbon gyda'r cyn archdderwydd, Robyn Llŷn.

Cân a glywir am y tro cynta yng nghyfarfod llys y Brifwyl ddydd Gwener - Dan ni ddim Isio Mynd i Lerpwl.

Mae disgwyl mawr amdani.


Mwy o storiau Dydd Mawrth


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý