Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Richard Morris Jones Croeso Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith
Richard Morris Jones yn gwahodd Cymru i'r Faenol
Neges oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005, Richard Morris Jones

Aeth dros dwy flynedd heibio ers cychwyn sefydlu 39 o bwyllgorau apêl lleol, gyda'r bwriad o sicrhau Eisteddfod lewyrchus ar Stad y Faenol yn Awst 2005.

Rwy'n ysgrifennu hwn o fewn mis i'r eisteddfod honno sy'n barod i groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru - ac, yn wir, o weddill y byd - i fwynhau gwledd am wythnos yn nechrau Awst.

Codi arian
Mae'r ardal hon yn enwog am ei chroeso, ac am ei Chymreictod, ac mae hynny wedi'i amlygu ei hunan yn y bwrlwm o weithgaredd sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd diwethaf.

Roedd pob pwyllgor apêl wedi gosod targed ariannol i ymgyrraedd ato, a da gallu dweud bod y rhan fwyaf o ddigon o'r pwyllgorau wedi hen basio'r targed hwnnw.

Cyfanswm y targed oedd £260,000 a bellach rydym wedi cyrraedd £330,000, a'r arian yn parhau i gyrraedd.

Gosodwyd nod arian nawdd o £350,000, bellach rydym dros £400,000.

Gwerthiant tocynnau
Os ydych am fynychu'r cyngherddau, ewch ati i brynu tocynnau, mae'r gwerthiant yn rhyfeddol o uchel eisoes.

Mae'r niferoedd sydd yn dymuno cystadlu yn uwch na'r niferoedd yn y rhan fwyaf o eisteddfodau diweddar, felly bydd yn werth chweil mynychu'r pafiliwn yn ystod y dydd hefyd.

Y traffig
Bu nifer o straeon am broblemau tebygol y traffig, yn bennaf oherwydd y gwaith ar Bont Menai ac er nad wyf yn anwybyddu yr ofn, anogaf chwi i gychwyn rhyw hanner awr yn gynt na'r arfer, a dilyn cyfarwyddyd Carys !

Ia, Carys ofalus, mascot newydd Cyngor Gwynedd.

Bydd miloedd o bamffledi yn cael eu dosbarthu yn dangos y llwybrau traffig mwyaf effeithiol i gyrraedd maes yr Eisteddfod, ac mae'r heddlu yn cydweithio eisoes gyda swyddogion yr eisteddfod i geisio datrys a lleddfu unrhyw broblem.

Gweithgareddau
Yn ystod eich arhosiad, cofiwch am weithgareddau Maes B i'r ieuenctid, Maes C fydd yn Galeri Caernarfon, a'r stomp fawr yn y Castell, a drama Porc Peis Bach yn Theatr Gwynedd gydol yr wythnos.

Crwydro
Cofiwch hefyd am ardaloedd glan môr hyfryd Pen Llŷn, dinas dysg Bangor, hen dref castellog Caernarfon, a hen ardaloedd chwareli Dyffryn Peris, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle, y cyfan werth awr neu ddwy o, grwydro.

Ond peidiwch a chrwydro gormod, ryda ni yn awyddus i gael miloedd ar y maes i dorri pob record ac i gynorthwyo'r eisteddfod yn y cyfnod anodd hwn.

Os yw tystiolaeth y dwy flynedd o baratoi yn arwydd o'r hyn sydd i'w ddisgwyl, yna mi ryda ni am eisteddfod hapus iawn.

Dewch i rannu'r hapusrwydd hwnnw.
Croeso i Eryri.


Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý