麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

麻豆官网首页入口 Homepage
麻豆官网首页入口 Cymru
麻豆官网首页入口 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆官网首页入口 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aduniad yn y Faenol
Cafodd rhai o gyn staff y Faenol aduniad yn y plasdy gyda Charles Duff, mab perchnogion olaf y st芒d, ar gyfer y rhaglen Faenol - Secrets Behind The Wall.
Ann Goodman, Charles Duff, Ray Williams, Vera Rankin a Derek Randall
Ann Goodman, Charles Duff, Ray Williams, Vera Rankin a Derek Randall o flaen ty'r Faenol. next page
12345678

Mae'r chwiorydd Ann Goodman (chwith) a Vera Rankin (ail o'r dde) yn dod o Benrhos yn wreiddiol ac mae'n nhw'n cofio bywyd yn y gegin ac yng ngerddi'r Faenol yn dda.

Dechreuodd Ann weithio yno yn 1943 ac roedd yn gweithio ar y st芒d i ddechrau fel rhan o fyddin y tir. Wedi hynny, symudodd i'r gerddi lle roedden nhw'n tyfu blodau ac yn eu gwerthu. Roedd 17 o arddwyr yn gweithio yno pan oedd gardd farchnad y st芒d yn ei anterth.

Ymysg y bobl fawr mae hi'n cofio cwrdd 芒 nhw roedd David Herbert, Cecil Beaton, y Dywysoges Margaret, y Dywysoges Marina a'r Fam Frenhines. Ymddeolodd yn 1979.

Yn y fyddin dir y dechreuodd Vera hefyd ond roedd hi'n cas谩u'r gwaith hwnnw. Yn ddiweddarach symudodd i weithio yn y gegin.

Mae hi'n cofio t欧 prysur iawn gyda rhywun pwysig yno bob penwythnos. Mae hi'n cofio'r staff yn casglu i wylio'r bobl fawr yn dod i lawr y grisiau i gael bwyd yn eu dillad crand a byddai dawnsfeydd yn cael eu cynnal tan oriau m芒n i bore i'r staff hefyd. Adeg y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd byddai'r bonedd yn ymuno 芒 nhw: pan roedd dawns ymlaen, byddai Vera yn mynd i aros i'r hen d欧 gyda Ceinwen, un o forynion y llaethdy, ac mae hi'n pitio'n arw gweld hen adeiladau prydferth yr hen neuadd wedi mynd i'r fath gyflwr.

Gadawodd Vera i weithio mewn ysgol wedi 13 mlynedd - lle roedd yn cael gwell cyflog. Ond roedd dod n么l i'r Faenol yn dod ag atgofion trist yn 么l iddi gan mai yn y gerddi yma y cyfarfu 芒'i g诺r.

Heddiw, mae hi'n byw yr ochr arall i'r wal, nid nepell o'r Faenol, ac yn edrych ymlaen i fynd i Gymanfa Ganu Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau 2005.

Charles Duff (ail o'r chwith) yw'r olaf o deulu'r Faenol i allu galw'r st芒d yn gartref.

Cred Charlie, mab mabwysiedig Syr Michael Duff a'r foneddiges Caroline, y dylai'r Faenol fod yn d欧 llawn bywyd, hwyl ac egni, gan mai dyna'r math o awyrgylch oedd yno pan oedd yn blentyn ac mae'n falch iawn fod Bryn Terfel yn cynnal ei 诺yl flynyddol yma.

Wedi treulio ei blentyndod mewn ysgolion preswyl yn Lloegr, roedd dod adref ar gyfer y gwyliau yn rhywbeth roedd yn edrych ymlaen yn fawr ato ac un o'i hoff lefydd hyd heddiw ydy Llyn y Dywarchen yn Nantlle a oedd yn eiddo i'r teulu ar un adeg.

Gadawodd gartref i fynd i'r coleg ym Mryste pan oedd yn 19, a phrin oedd ei ymweliadau 芒'r Faenol wedi hynny. Bu farw ei dad yn 1980 pan oedd Charlie yn 30.

Roedd dod n么l i'r aduniad yn hyfryd, meddai, yn enwedig i weld Derek Randall gan i'w rieni, Mr a Mrs George Randall, sydd bellach yn byw ym Mhorthaethwy, fod yn gymaint o ran o'i fagwraeth. Nhw wnaeth ei fagu, mwy neu lai, meddai ac 'achub ei fywyd' fel plentyn. Mae'n cofio George, chauffeur y teulu, fel dyn hael, caredig, annwyl a doniol yr oedd pawb yn ei addoli

Datgelodd hefyd fod Syr Michael Duff eisiau troi st芒d y Faenol yn barc bywyd gwyllt, fel sydd yn Longleat heddiw, ond ei fod wedi methu ennyn diddordeb datblygwyr.

Deuai mam Charlie, y Foneddiges Caroline o deulu mawr Plas Newydd ym M么n, lle mae ei brawd yn dal i fyw. Mae Charles Duff yn s么n mwy am y teulu a'i berthynas anodd gyda'i dad ar y rhaglen Faenol - Secrets Behind The Wall.

Roedd Ray Williams (canol) yn gweithio yn llaethdy'r Faenol ac mae hi'n dal i fyw mewn bwthyn ar y st芒d.

"Ro'n i'n dairymaid am 25 mlynedd ac yn byw yn yr hen neuadd. Roeddwn i yno ar ben fy hun am 12 mis ac roedd na ysbryd yn y t欧! Y rheswm oedd am fod hen reolwr y fferm wedi gadael a'i bod yn flwyddyn nes daath y rheolwr newydd, Mr Gladstone, efo'i deulu."Roedden nhw'n ddyddiau braf - fuaswn i ddim wedi aros am 25 mlynedd fel arall. Ro'n i wrth fy modd yno. Mi ges i fy magu ar fferm ym Mhen Ll欧n, yn Llangwnadl, ac ro'n i wedi bod eisiau gweithio efo anifeiliaid erioed."Mae hi'n cofio pobl fel y Dywysoges Marina, y Fam Frenhines a'r Tywysog Charles yn ymweld 芒'r t欧.

Mae Derek Randall, sydd bellach yn byw ym Mhorthaethwy, yn s么n am ei blentyndod ar y st芒d, fel mab gyrrwr y teulu, George Randall yma.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆官网首页入口 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy