麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

麻豆官网首页入口 Homepage
麻豆官网首页入口 Cymru
麻豆官网首页入口 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆官网首页入口 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Arweinwyr Streic y Penrhyn Creithiau'r Streic Fawr (2)
Roedd buddsoddiadau'r Arglwydd Penrhyn a oedd yr un mor llewyrchus mewn llechi Cymru ac mewn siwgr o'r Carib卯 wedi ei arwain i roi'r llysenwau Sugar a Slate i'w ferched Emma a Juliana.
Roedd yna eithriadau i'r rheol wrth gwrs. Roedd yn well gan nifer o chwarelwyr wario'u harian yn y dafarn yn hytrach nag ar gapeli, a doedd pob perchennog chwarel ddim yn rhydd o ysgogiadau dyngarol.

Ond roedd y llinellau bai rhwng y ddwy ochr mor ddwfn ac unrhyw raniad mewn strata daearegol, a doedden nhw ddim ond angen cynhyrfiad bychan i'w chwalu ar agor.

Dyna beth ddigwyddodd ym Mis Ebrill 1900, pan wrthododd rheolwr chwarel y Penrhyn yr hawl i'r gweithwyr gasglu taliadau undeb ar diriogaeth y chwarel fel ymgais i roi terfyn ar weithgaredd undebol. Dechreuodd y weithred hon yr hyn a ddatblygodd i fod yn un o anghydfodau diwydiannol hiraf a chwerwaf yn hanes Prydain - anghydfod sy'n dal i atsain hyd heddiw.

Capel Jerusalem, Bethesda, lle codwyd cofadail i gofio'r rhai a fu'n gwrthsefyll yr Arglwydd Penrhyn yn y 'Cload Allan' yn ystod y streic.Protestiodd rhai dynion am y cyfyngiad ac fe gawson nhw'u diarddel yn syth o'r lleoliad; cerddodd y gweddill allan, bron 3,000 ohonyn nhw.

Cafodd tua 400 eu denu n么l i'r gwaith, ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, gan anrheg o sofren ac addewid o godiad cyflog; fe ddaethon nhw i gael eu galw'n "Fradwyr" gan y streicwyr. Byddai teuluoedd a oedd yn deyrngar i'r streic yn rhoi hysbysiadau yn eu ffenestri yn dweud: "Does dim bradwr yn y t欧 hwn".

Llusgodd y misoedd yn eu blaen. Cafwyd rhai helyntion, a chafodd y Ddeddf Derfysg - a rybuddiai'r protestwyr i wasgaru gan awdurdodi defnyddio grym yr heddlu neu hyd yn oed grym militaraidd petai raid - ei darllen ar un achlysur. Yr un pryd cynhaliodd yr undeb a pherchennog y chwarel, yr Arglwydd Penrhyn, ymgyrchoedd croes calonnau a meddwl byd eang trwy golofnau'r papurau newydd, a fu'n dilyn yr anghydfod 芒 chryn ddiddordeb.

Ond yn y diwedd, nid y calonnau na'r meddyliau a ddatrysodd y mater, ond stumogau gweigion teuluoedd y streicwyr. Aeth y dynion yn 么l i'r gwaith ym Mis Tachwedd 1903, gyda'u hundeb yn dal i fod heb ei gydnabod. Roedden nhw wedi para'n gryf am dair blynedd a saith mis.

Enw lle Hebreaidd yw Bethesda, un o nifer a fabwysiadwyd gan bentrefi Cymraeg a oedd 芒'u crefydd anghydffurfiol yn hoffi menthyg awdurdod a mawredd teitlau Beiblaidd ar gyfer cymunedau yn ogystal ag enwau personol. Ystyr 'Bethesda' yw "T欧 Heddwch", ond doedd y gymuned ddim wedi llwyddo i fod yn hynny o bell ffordd yn ystod tair blynedd chwerw'r streic.

Canrif gyfan yn ddiweddarach, mae pobl y pentref yn dal i gofio pa deuluoedd oedd yn streicwyr a pha rai oedd yn "Fradwyr".

Ymlaen ...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆官网首页入口 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy