 |
 |
Bywyd ar fferm yn Y Bala Atgofion Lisa Roberts o'i theulu a'i magwraeth ar fferm ger Y Bala.
"Ges i fy ngeni yn Fferm Frongoch, ond dwi'n byw yn y Bala rwan. Roeddwn wrth fy modd yn tyfu i fyny ar fferm - mi gawsom ni nefoedd o fagwraeth. Digon o le i chwarae; roeddem wrth ein boddau." |
 |
 |
 |

 |
Yr efeilliaid Mag a Lisa efo'u mam, Margaret a'u brawd, John Elis, yn Ffair y Bala, 1949
|
|
1听
2听
3听
4听
|
 |
"Roedd pawb yn mynd i Ffair y Bala ers talwm. Roedd 'na ddwy ffair - un ar Mai 14 i ddathlu'r gwanwyn ac un ar Hydref 25 cyn y gaeaf.
Dyma lun ohonof i a fy ngefaill, Magi - Margaret ac Elisabeth yden ni go iawn ond fel Mag a Lisa fyddai pawb yn ein hadnabod.
Roedd y ffair yn gyffro mawr, gyda phawb yn hel eu pres am hydoedd. Roedd 'na stondinau dillad a llestri, fel ym mhob ffair. Nid oeddem yn mynd i lawer o lefydd felly roedd yn dipyn o dr卯t. Roedd mam yn prynu dillad newydd i ni a dad yn prynu llestri - dwi'n cofio fo'n dod adref gyda llestri te newydd fel sypreis!" Lisa Roberts.
|
 |
 |  |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
|
 |
|
|
|