Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blaenau Ffestiniog
Pwerdy Tanygrisiau
Roedd Pwerdy Tanygrisiau yn dathlu ei ddeugain oed yn 2004. Dyma luniau a chip ar hanes y gwaith i ddathlu'r achlysur. Os oes gennych chi atgofion neu hen luniau, anfonwch aton ni.

Sgaffaldiau
Cynhaliaeth ddur yn rhan ogleddol y gwaith, Awst 28, 1959. next page
1Ìý 2Ìý 3Ìý 4Ìý 5Ìý 6Ìý 7Ìý 8Ìý 9Ìý 10Ìý
11Ìý 12Ìý 13Ìý 14Ìý 15Ìý 16Ìý 17Ìý 18Ìý

Gorsaf Ynni Ffestiniog oedd gorsaf trydan dŵr gyntaf gwledydd Prydain.

Cafodd ei hadeiladu i ddarparu trydan yn sydyn pan fyddai'r galw mwyaf amdano.

Mae'r pwerdy wrth droed y Moelwyn ger Tanygrisiau ar ochr y ffordd sy'n arwain o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog.

Mae trydan yn cael ei gynhyrchu wrth i ddŵr o Lyn Stwlan uwchben gael ei ollwng i droi twrbinau yn y pwerdy islaw. Mae'r dŵr wedyn yn cael ei gadw mewn llyn arall a grëwyd ger y pwerdy ar gyfer ei bwmpio'n ôl i Stwlan.

Llyn naturiol ydi Stwlan ond fe'i ehangwyd yn 1898 gan y Yale Electricity Company i gynhyrchu trydan ar gyfer y chwareli.

Caeodd y pwerdy gwreiddiol oedd yn cael ei adnabod fel Dolwen yn 1964.

Ger Stwlan mae olion hen chwarel y Moelwyn a oedd yn eiddo i'r Barwn Rothschild yn wreiddiol.

Oddi ar argae Stwlan gellir gweld craig ag iddi siâp wyneb dyn. Yn lleol mae'n cael ei hadnabod fel Hen Ddyn y Moelwyn. Yn anffodus, fodd bynnag, mae'r hen greadur o'r golwg mewn niwl lawer o'r amser.

Ar ddyddiau felly, pan fo'r Moelwyn dan gwmwl, dywedir yn lleol, "Mae'r Moelwyn yn gwisgo'i gap."

Yn 1948 y dechreuwyd meddwl am y cynllun trydan presennol a daeth caniatâd i fynd ymlaen â'r gwaith yn 1955 ond ni ddechreuwyd gweithio ar y safle tan 1957.

Yr oedd yn gynllun enfawr i'r ardal ac yn golygu gwaith i bobl o bell ac agos.

Agorwyd y pwerdy yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth II ar Awst 10, 1963.

Y mae'n bosib ymweld â'r pwerdy a theithio i Lyn Stwlan ac mewn canolfan gyfagos mae arddangosfa o luniau sy'n dangos y gwaith adeiladu.


Cyfrannwch

Vivian Parry Williams, Blaenau ffestiniog
NID Gorsaf drydan dwr cyntaf Prydain yw Ffestiniog (HEIDRO)(Roedd nifer fawr o rheiny cyn ei hagor yn 1963, gan gynnwys Dôl Wen gyfagos, a godwyd ar ddiwed y 19 ganrif, fel y nodwch.) Gorsaf Drydan STORFA BWMPIO (Pumped Storage) gyntaf Prydain oedd/yw hon, sy'n defnyddio'r un dwr trwy'r amser, yn hytrach na dwr sy'n rhedeg fel pwerdy heidro) Codwyd dwy arall o'r math hyn wedyn yn ystod y 1960au yn yr Alban hefyd, ac wrth gwrs, Dinorwig yn Llanberis yn yr 1980au.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Straeon Digidol
Trefi
Ffilmiau


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý