麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bwyd a diod

麻豆官网首页入口 Homepage
麻豆官网首页入口 Cymru
麻豆官网首页入口 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆官网首页入口 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bwyty Bwyta allan

Pe bai rhywun yn eich holi am le da i fynd am bryd o fwyd yn eich ardal lle fyddech chi'n ei awgrymu a pham?
Olwen Evans, Rhostryfan
Mae'r Vic yn Felinheli yn gwneud cinio Sul Traddodiadol ardderchog - cewch weld y cig yn cael ei dorri o'ch blaen ac yna gellwch helpu eich hun i'r llysiau - a mynd yn ol am fwy! Blasus iawn.

Gwilym o Gaerdydd
Ges i glamp o stecen frau a blasus yn Nhafarn y Plu yn Llanystumdwy, gyda llun Wil Sam yn serennu arna'i o wal y bwyty. A'r cyfan mewn awyrgylch hollol Gymreig!

Heulwen Renshaw, Bodffordd, Ynys M么n
Mwynheais ddarllen y tudalennau yma yn fawr iawn, ac am roi cynnig ar rai o'r tai bwyta. Hoffwn weld ffermydd lleol yn hysbysebu eu cynnyrch, wn i ddim am un fferm sydd yn gwerthu i bobl lleol y dyddiau yma, mae hyn yn resyn garw am nad oes blas tebyg i foron yn syth o'r cae, neu datws newydd fres wedi'u coginio trwy'i crwyn, efo cig moch. Mmmm! Hoffwn wybod os cewch hanes rhywun lleol yn gwerthu eu cynnyrch. Llawer o ddiolch.

Siwan Hywel o Badog: Bistro Betws ym Metws y Coed, neu Westy Ty Gwyn o'r un pentref.

Castell Mawr, Pwllheli
Bryncynan, bwyd da bob amsar, braidd yn gostus!

Ellyw Efans, Tywyn
Penhelig Arms, Aberdyfi. Mae'r bwyd yn fendigedig. iym iym! Mae'r staff yn lyfli hefyd!

Marian, Blaenau Ffestiniog
Bryn Arms yn Gellilydan. Mae ganddyn nhw 'spare ribs' bendigedig.

Sian Jones, Caergybi
Yr Hen Fecws yn Porthmadog. Mae'r bwyd yn ffantasig a'r croeso yn wych. Rhywle gwerth chweil am ddathliad.

Gwenllian Haf, Tudweiliog
Lion Hotel yn Nhudweiliog. Bwyd bendigedig ac yn rhesymol dros ben!

Lynsey, Caernarfon
Bistro Conwy neu Rubys Porthaethwy, mmm hmmm.

James, Felinheli
Mae gen i dri ffefryn o ble i fynd am pryd o fwyd. Mae Caffi Meinir yn wych yn Nant Gwrtheyrn. Golygfa anhygoel o brydferth. Mae'r bwyd yn ffres ag yn lleol i'r adal. Dwi'n awgrymu am y cinio dydd Sul mwyaf blasus dylsech chi mynd i'r caffi 'ma. Cewch homar o blat o cig!

Annie o Bontllyfni
Gesi fwyd bendigedig yn Meifod, Bontnewydd. Mae'r lle yn gartrefol ac mae'r bwyd yn hyfryd.

Iwan Williams, Llangwm
Ewephoria, Llangwm

Sandra Ewing, Bodffordd
Y Bistro, Llanberis: Bendigedig, gair sydd ddim yn dod yn agos at y disgrifiad o'r bwyd - mae yn gwella ar bob ymweliad. Os nad ydych wedi ei dr茂o nid ydych wedi byw.

Ifor Williams, Llanfaglan
Er sylw Mari Ems, Bethesda. Toes yna ddim "Indian" yn y Bontnewydd, ond mae yna un yn Dinas, Llanwnda. Os ydych eisiau lle bendigedig am ffidan, ewch i Penbryn Bach, Uwchmynydd. Cymry lleol i gyd yn gweithio yno - pobol efo acen hyfryd Pen Ll欧n.

Mari Ems, Bethesda
Cefais fwyd bendigedig yn yr indian newydd yn Bontnewydd. Mmmmmm.

Janet o Lanerchymedd
Bwyd bendigedig i'w gael yn y Talent House Cantonese ym Menllech, Ynys M么n.

Richard Thomas, Llanberis
Bistro Llanberis. Bwyd bendigedig a chroeso cynnes gan Danny a Nerys. Yn y Bistro wnes i ddywedd茂o felly atgofion melys am y lle.

Elin Haf o'r Bala
Dylanwad Da, Dolgellau. Mae'n werth y pris ar achlysur arbennig!

Heledd o Ddeganwy
Er mai dim ond lle bach ydi Deganwy, mae 3 bwyty ardderchog yn y pentre. 'Nicky Ip' ydi'r bwyty Tseini gorau dwi 'di bod ynddo fo - mwy na jest y sweet n' sour arferol. Mae 'Sands' yn Fistro eithaf modern gyda bwydlen eithaf cyfoes. Mae'r bwyty Ffrengig, 'Paysanne' hefyd yn dda ofnadwy, er ei fod yn hen bryd iddyn nhw ddiweddaru'r fwydlen! Hefyd, jest dros yr afon mae 'Bistro Conwy' yn cynnig prydiau o ansawdd uchel gyda thema Gymraeg, yums. Ond cofiwch: bwytai bychain ydyn nhw, felly mae'n rhaid bwcio bwrdd o flaen llaw!

Dafydd Glyn Jones, Ffestiniog
Oakley Arms, Maentwrog a Thafarn Brondanw, Llanfrothen - bwyd da.

Anest Evans o'r Ff么r
I Fryn Cynan am fod yno fwyd da a phethau i'ch diddori.

Katie Jones, Llangoed
Italian ar y pier ym Mangor lle wnes i ddywedd茂o.

Rwth Jones, Bae Colwyn
Pen-y-Bryn (Bae Colwyn Uchaf) oherwydd gwasanaeth da a bwyd da!

Hywel Meredydd, Llangefni
Gwesty'r Bull, Llangefni - bwyd da mewn lle hanesyddol

Dyfed Wyn Roberts, Amlwch
Tafarn y Rhos - croeso Cymraeg a bwyd da

Sian Elin Huws o Ddyffryn Nantlle
Caffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn.

J Clapham o Fangor
Bella Vista, Bangor a'r Patagonian (Penmaenmawr).

Celyn o Benmorfa
Tiffany's - caffi bach ar Gloddaeth Avenue yn Llandudno. Mae'r bwyd yn dda, yn enwedig y salad - mae'n gwerthu gwin ac yn chwarae Frank Sinatra a'i gyfeillion.

Bethan Jones, Nefyn
Os am fynd gyda chriw o ffrindiau, mae'r bwyty Eidaleg Pompeii yn neis iawn. Neu os am fwyd tafarn, mae'r Cliffs neu Bryncynan yn gwneud bwyd da.

Anna o Gaernarfon
Mi ges i bryd bendigedig yn y Bull ym Miwmares yn ddiweddar - mae'r bwyty i fyny grisiau yn eithaf drud ond mae'r bwyd yn 'toddi yn y geg'. Mae Molly's yng Nghaernarfon yn lle catrefol efo bwyd reit dda hefyd ac mae Cofi Roc yn gwneud Moccachinos gorau'r byd!

Catrin o Nefyn
Cliffs Inn yn Morfa Nefyn achos ei fod yn hwylus i bobl leol. Pompeii yn Pwllheli oherwydd mae yn wahanol ac yn homemade!



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy