Hen Wraig |
Gwn i be wna i. Mae'n llawn
egni unwaith eto. Ar y dechra fi oedd yn arwain y ffordd a fo oedd yn dilyn, rwan fi sy'n ei ddilyn o!
Gin i oedd agoriad y twr ac felly fi oedd yn ei agor, rwan mae'n rhaid i mi gloÂ’r drws tra'n gadal? |
Ìý |
Mae'r hen wraig yn cerdded
tuag at y botel ffisig a'r chwistrell a golwg benderfynol ar ei hwyneb. Mae'r llanc hefyd yn deffro ac
yn camu i'r gris isaf gan estyn ei law allan tuag at y wraig. |
Hen Wraig |
Dyma sut yr aeth o, felly
dyma sut yr af i! |
Ìý |
Gan eistedd ar y gwely
a llenwi'r chwistrell. Gwelwn nodwydd y chwistrell yn agosáu at ei braich a hithau'n crynu fel
jeli. |
Hen Wraig |
Na, doeddwn i ddim ofn marw,
ofn beth a ddeuai wedyn oeddwn i. |
Ìý |
Mae'n dechrau pwmpio'r
hylif i mewn i'w chorff. |
Ìý |
I ble dw iÂ’n mynd dudwch?
I ble... |
Ìý |
Mae'r
ffisig yn dechrau gweithio.
|
Ìý |
Dwi'n... mynd? |
Ìý |
Mae'n gorwedd i lawr ac
mae distawrwydd llethol yn ymledu dros y theatr. Yna, heb rybudd, mae'r hen wraig yn dechrau dadwisgo
yn yr un modd â'r llanc nes ei bod yn gwisgo'r un dillad ffasiynol ag y gwisgai ar ddechrau'r ddrama. |
Llanc |
TiÂ’n dwad? Gan ddal
llaw y ferch. Gad i ni fynd allan o'r lle yma... allan i'r awyr iach. Tyrd, blasu'r cyfan tra da ni'n
cael y cyfla |
Merch |
Dwy galon yn curo... |
Llanc |
Caru nes bod o'n brifo... |
Merch |
Dowc cynta'r tymor... |
Llanc |
Torri iasÂ… |
Merch |
Teimlo'r croen yn llyfn a
phoeth |
Ìý |
Mae'r ddau yn syllu ar
ei gilydd mewn ffordd ramantus, ac yna, yn
araf maent yn dechrau ail ddringo'r grisiau. Pan gyrhaeddant ganol y grisiau clywir swn trên yn
y pellter yn graddol gynyddu. Mae'r ddau yn stopio'n stond. |
Merch |
Glywi di o? Mae golwg bryderus
ar ei hwyneb. Glywi di'r trên yna
yn bell, bell i ffwrdd? |
Llanc |
Dwi'n i glywad o, i glywad
o fel cloch. Mae golwg tra gwahanol ar wyneb y llanc, mae bron fel petai'n gwenu |
Merch |
Trên... Trên yn
gadal, yn ffarwelio. Dagrau, tristwch... Yna gan droi at y llanc. Beth os mai nid dyma'n hamser ni? Dylen
ni aros yn yr ystafell yma am ychydig mwy? |
Llanc |
Na. Na! Dwy tiÂ’m yn dallt?
Gwranda ar swn y trên, mae’n agosáu. Nid gadael mohono fo ond cyrraedd! Dylai swn y
trên fod yn gryf iawn erbyn hyn. |
Merch |
Mae'n parhau i edrych yn
amheus. Wel, ia, rwyt ti'n iawn ar hynny o beth, ond sut fedrwn ni wybod mai dymaÂ’n hamser ni?
Beth am aros yn yr ystafell yma am ychydig eto. |
Llanc |
Dwy ti 'm yn gweld? Mae'n
amlwg mai dyma'n hamser ni neu fuasai'r trên heb ddod. |
Ìý |
Mae 'r swn yn newid wrth
i drên stopio. |
Llanc |
Yn llawn cyffro. Mae
o di cyrraedd! Tyd, neu mi fyddan ni'n rhy hwyr. Mae'n dechrau rhedeg i fyny'r grisiau gan ddal llaw
y ferch,ond y mae hiÂ’n gwrthod symud. |
Llanc |
Tyrd, mi fyddi di'n iawn hefo
mi. Gyda'n gilydd bob cyfri... |
Merch |
Ia, iawn! Yn benderfynol
DwiÂ’n dwad. Gyda'n gilydd y gwnawn ni bob dim! |
Ìý |
Mae'r ddau yn rhedeg i
fyny'r grisiau ac o'r golwg. Yn y fan clywir swn y trên yn gadael ac yna'n distewi. Swn traed ar
y grisiau. Yr hen wraig yn ymddangos yn gwisgo hen ddillad ac yn araf gerdded at y gadair wrth y gwely.
Eistedd a rhythu ar y chwistrell. |
Hen Wraig |
Ei amsar o oedd hi, nid fy
amsar i. Doedd dim lle i mi ar y trên |
Ìý |
Tywyllwch |