![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Texas Radio Band
Abertawe, Mai 2004 Eiry Miles
Lle a phryd
T欧 Tawe, Nos Wener Mai 21
Y band
Texas Radio Band
Awyrgylch
Unwaith y mis, cynhelir noson 'Gwener y Grolsch' yn Nh欧 Tawe, sef noson o gerddoriaeth fyw. Cyn sefydlu'r noson ddwy flynedd yn 么l, roedd y cyfleoedd i glywed cerddoriaeth Gymraeg yn brin yn Abertawe.
Bellach, mae nos Wener ola'r mis yn ddyddiad pwysig yng nghalendr Cymry Cymraeg ifanc yr ardal, a llawer o bobl ddi-Gymraeg sy'n mwynhau clywed cerddoriaeth o safon uchel.
Er nad yw'n dal mwy na 90 o bobl, mae neuadd T欧 Tawe'n lle ardderchog i gael gig. Mae'r goleuadau'n isel, lliwiau cynnes, croesawgar ar y waliau, awyrgylch gyfeillgar, pris y diodydd yn rhad a bar bach clyd yn y cefn i'r rhai sydd am sgwrs ac eiliad o dawelwch. Roedd tua chwe deg yno nos Wener diwethaf, a'r mwyafrif helaeth yn ddisgyblion chweched dosbarth. Yn anffodus, diflannodd llawer ohonyn nhw i fusnesu ar griw rhaglen Bandit, oedd yn holi pobl y tu allan. Ar un adeg, roedd y neuadd bron yn wag. Ond, llwyddodd y gerddoriaeth i'w denu yn 么l erbyn diwedd y noson.
Trac y Noson
I mi, trac y noson oedd 'Rhan o Ni'. Roedd arddeliad yn y perfformiad - rhywbeth oedd ar goll yn y caneuon eraill.
Y perfformiadau
Roedd sawl aelod o'r band yn absennol - dim ond y canwr, y drymiwr a'r basydd oedd yno. Doedd dim ots am hynny gan eu bod nhw'n offerynwyr gwych a'u s诺n tynn yn llenwi'r neuadd fach, ond teimlwn eu bod nhw braidd yn ddi-hyder heb y lleill.
Roedd ymateb y gynulleidfa'n wan ar y dechrau, gan fod y seibiannau hir rhwng y caneuon yn difetha'r awyrgylch. Cafwyd gormod o ganeuon araf ar y dechrau, ac eisteddai'r canwr yn wynebu'r ochr. Ni siaradodd 芒'r gynulleidfa o gwbl heblaw am ryw fwmial aneglur diamynedd o dro i dro, a threuliodd oesoedd yn ffysian ac yn tiwnio'i git芒r. Roedd fel tasai'n canu ar ei ben ei hun yn ei ystafell wely, yn hytrach nag o flaen cynulleidfa.
Diolch byth, cyn i bawb golli diddordeb, cododd ar ei draed i ganu Baccta Crackin' a dechreuodd y gynulleidfa ddawnsio. Wedi hynny, ad-ennillodd y band eu hyder, ac aeth eu perfformiad yn gryfach ac yn wylltach. Ymhen tipyn, roedd y llwyfan bach simsan yn crynu cymaint nes ei fod bron 芒 dymchwel, a phawb yn cael amser wrth eu boddau.
Uchafbwynt y noson
Uchafbwynt y noson oedd y caneuon olaf. Erbyn hynny, roedd sylw pawb wedi'i hoelio ar y llwyfan, roedd y llawr dawnsio'n llawn a'r band wedi cynhesu ac yn fwy hyderus. Trueni felly iddyn nhw orffen chwarae mor gynnar - roedd pawb yn ysu am fwy erbyn yr encore.
Y peth gwaethaf am y noson
Bydda' i'n swnio fel hen wraig, ond rhaid dweud bod gormod o feedback ar adegau.
Achlysur Roc a R么l
Cafwyd perfformiad karaoke arbennig o ganeuon MC Saizmundo a Goldie Lookin' Chain gan rai o aelodau mwyaf parchus y gynulleidfa ar ddiwedd y noson.
Beth sy'n aros yn y cof?
Gweler uchod
Talent gorau'r noson
Er iddo roi perfformiad mewnblyg a di-fflach, rhaid cyfaddef bod Matthew y canwr yn eitha golygus, mewn ffordd moody a thywyll.
Marciau allan o ddeg
Hoffwn i roi marc uchel gan fod Texas Radio Band yn un o fandiau mwyaf gwreiddiol a thalentog y s卯n ar hyn o bryd, ond cymeron nhw lawer gormod o amser i fagu hyder. 5.5/10
Un gair am y gig
Gweddol. Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Fy nghyngor i Texas Radio Band yw na ddylen nhw ganu cymaint o ganeuon araf ar y dechrau, ac y dylai'r canwr ganu i'r gynulleidfa yn hytrach na'i draed.
Lincs gwefan am y diweddara o Texas Radio Band
Mwy o gigs ar safle'r de orllewin
|
|