|
|
![]() | ![]() 麻豆官网首页入口 Homepage Cymru'r Byd | ![]() | |||||||||
![]() | |||||||||||
禄 | ![]() | ||||||||||
![]() |
| ![]() | |||||||||
![]() | Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 | ![]() |
Straeon![]() Medal am dagu a gwenwynoGweinidog a'i howsgipar beryg
Comedi ddu am wraig ganol oed yn tagu gwraig y gweinidog ac wedyn yn gwenwyno'r gweinidog ei hun a enillodd y Fedal Ddrama i Manon Wyn Williams yn Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Syrthio mewn cariad Er mai monolog yw C芒r dy Gymydog dywedodd Manon bod nifer o gymeriadau yn y ddrama ond y rheini'n cael eu chwarae gan y wraig sy'n syrthio mewn cariad 芒 gweinidog y mae'n gofalu am ei d欧. Mae pethau'n mynd mor ddrwg mae'n tagu gwraig glaf y gweinidog a phan yw'r gweinidog yn ymwrthod 芒 hi mae'n ei wenwyno yntau. ![]() Ond dywedodd mai Olwen Rees oedd ganddi hi mewn golwg ar gyfer y rhan - ond ei bod wedi phlesio hefyd gyda dehongliad Iola Gregory fel rhan o'r seremoni'r Fedal Ddrama ar lwyfan yr Urdd. "Yr oedd yn ddehongliad gwahanol i beth oeddwn i wedi ei feddwl ac yr oeddwn i'n falch ohono," meddai. Yn ysgogiad Ychwanegodd ei bod yn hynod falch o feirniadaeth Siwan Jones, awdur Con Passionate ar ei gwaith. "Mae cael eich canmol yn golygu lot ac yn ysgogiad i sgrifennu eto ac yn rhoi syniad o sicrwydd ichi," meddai. Mae hwn yn gyfnod hynod o lwyddiannus i Manon a hithau wedi ennill medal ddrama a dwy wobr arall yn Eisteddfod M么n bythefnos yn 么l - Tlws yr Ifanc a'r Fedal Ryddiaith. ![]() Ond o ran sgrifennu dywedodd nad oes ganddi syniad beth ddaw nesaf. i ddarllen y stori newyddion
Cysylltiadau
Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
![]() | ![]() About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |