麻豆官网首页入口

Pa bris am fagiau siopa?

  • Cyhoeddwyd
Bagiau plastigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwriad y llywodraeth yw lleihau nifer o fagiau plastig sy'n niweidio'r amgylchedd

Fe fydd 'na gryn newid i bobl wrth iddyn nhw fynd i siopa o ddydd Sadwrn ymlaen.

Mae rheolau newydd yn dod i rym sy'n golygu bod rhaid talu o leiaf bum ceiniog am bob bag untro y byddwch chi'n ei dderbyn.

Os nad ydach chi am dalu bydd rhaid bo gennych chi eich bag eich hun.

Mae 'na ambell i eithriad lle na fydd rhaid talu.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, y nod ydi annog pobl i ailddefnyddio bagiau dro ar 么l tro a lleihau'r defnydd o'r math o fagiau sy'n niweidio'r amgylchedd.

Cymru ydi'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i weithredu'r fath bolisi.

Ond mae pobl yn Iwerddon wedi bod yn talu am fagiau ers naw mlynedd.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth cynrychiolwyr byd busnes a fferyllwyr alw am fwy o wybodaeth yngl欧n 芒'r mesur.

Un sy'n dechrau paratoi ar gyfer y newid yw Ann Walters, gwraig fferm o Gaerfyrddin.

"Dwi'n rhoi rhyw ddau fag yn fy mag llaw ond does gen i fyth digon.

Disgrifiad,

Adroddiad Iola Wyn

"Dwi ddim yn credu fy mod i'n deall y yn llawn.

"Unwaith fyddai yn y siopau y bydd y rheolau yn dod yn gliriach."

Gallai cwmn茂au wynebu dirwyon o hyd at 拢5,000 os ydyn nhw'n rhoi bag untro i gwsmer am ddim gan y byddan nhw'n torri'r gyfraith.

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi dweud bod angen bod yn fwy hamddenol yn y modd y mae'r taliad yn cael ei orfodi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd 'na gyfnod o dri mis i siopwyr a siopau ddod i delerau gyda'r ddeddf a bod yr holl wybodaeth angenrheidiol ar wefan arbennig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol