麻豆官网首页入口

Angen gwella iechyd plant

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrFfynhonnell y llun, Other

Mae adroddiad newydd wedi galw am ystod eang o gamau i wella iechyd plant Gogledd Cymru.

Yn ei adroddiad blynyddol cyntaf, mae Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Andrew Jones, wedi canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar a phrofiadau a chanlyniadau iechyd ein babanod, ein plant ifanc a'u teuluoedd.

Dywedodd Mr Jones: "Drwy wneud hyn, rwy'n ceisio atgoffa pawb ohonom fod gennym r么l i'w chwarae o ran gwella iechyd ein poblogaeth a bod llawer o bolis茂au a gwasanaethau yn effeithio ar ganlyniadau iechyd.

"Mae'r sylfeini ar gyfer pob agwedd ar ein datblygiad yn cael eu gosod yn ystod beichiogrwydd a phlentyndod cynnar.

'Elw ar fuddsoddiad'

"Dywed y dystiolaeth wyddonol wrthym mai'r adeg fwyaf effeithiol i ddylanwadu ar ddatblygiad plant er mwyn sicrhau bod eu hiechyd a'u haddysg yn datblygu i'r eithaf, yn ogystal 芒'u datblygiad cymdeithasol, yw cyn gynted 芒 phosibl.

"Yn ogystal, mae achos economaidd cryf dros wneud hynny gan fod yr elw ar fuddsoddiad yn ystod y blynyddoedd cynnar yn fwy nag ar unrhyw adeg arall."

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflwr iechyd mewn gwahanol rannau o'r Gogledd.

Ychwanegodd Mr Jones: "Mae ardaloedd gwledig a threfol ar hyd a lled y Gogledd lle ceir lefelau uchel o amddifadedd.

"Mae cyfraddau marwolaethau, genedigaethau cyn pryd, pwysau geni isel, marwolaethau ymysg y newydd-anedig, derbyniadau i unedau newydd-anedig, marwolaethau ymysg babanod, marwolaethau ymysg plant, anafiadau a beichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau yn sylweddol uwch mewn ardaloedd 芒 lefelau uchel o amddifadedd.

Amrywiadau

"Ar hyd a lled y Gogledd gwelir amrywiadau mewn canlyniadau iechyd a phrofiad bywyd.

"Mae hyn yn cynnwys amrywiadau annerbyniol o ran pwysau geni isel ymysg babanod ar draws ein cymunedau a'r ffaith y gallai babanod sy'n cael eu geni yn y rhannau mwyaf difreintiedig o'r Gogledd farw saith mlynedd ynghynt na'r rhai sy'n cael eu geni yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog.

"Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yw'r brif flaenoriaeth.

"Mae hyn yn allweddol i leihau anghydraddoldebau iechyd a chreu cymdeithas decach. Mae blaenoriaethau gwasanaethau iechyd plant yn y gymuned yn hollbwysig."

Deg maes

Galwodd Mr Jones am gamau mewn un ar ddeg o feysydd allweddol:

  • Dylid rhoi cymorth i bob menyw roi'r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd drwy ymyriadau iechyd cyhoeddus systematig a chyd gysylltiedig yn seiliedig ar dystiolaeth.

  • Dylai mynd i'r afael 芒 gordewdra ymysg mamau fod yn brif flaenoriaeth mewn unrhyw waith ar ordewdra.

  • Dylai pob uned famolaeth a darparwyr cymunedol gael achrediad cyfeillgar i fabanod llawn gan UNICEF fel isafswm er mwyn sicrhau bod cymaint o famau 芒 phosibl yn dechrau bwydo ar y fron ac yn parhau i fwydo ar y fron.

  • Dylid rhoi ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth ar waith i leihau beichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau mewn ffordd systematig a chydgysylltiedig.

  • Dylid cyflawni cyfraddau imiwneiddio targed ar gyfer plant a menywod beichiog.

  • Dylid rhoi'r cynllun ysgolion iach cyn ysgol ar waith ynghyd 芒 chanllawiau gweithgaredd corfforol newydd y blynyddoedd cynnar.

  • Dylid hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth i sicrhau amgylcheddau di-fwg ar gyfer plant.

  • Dylai dulliau cadarn fod ar waith i nodi materion yn gysylltiedig ag iechyd meddwl rhieni cyn gynted 芒 phosibl a hwyluso cyfeirio at wasanaethau a chymorth priodol.

  • Dylid darparu mynediad cyfartal i raglenni rhianta yn seiliedig ar dystiolaeth.

  • Dylid mabwysiadu dull mwy integredig o gefnogi teuluoedd sy'n agored i niwed, gyda phwyslais cryf ar atal ac ymyriadau cynnar.

  • Dylid hyrwyddo ymgysylltu drwy bartneriaethau wedi'u targedu fel Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd.

Mae'r adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn cael ei anfon i'r chwe awdurdod lleol ac asiantaethau eraill yn y Gogledd. Mae hefyd ar gael ar wefan y bwrdd iechyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol