麻豆官网首页入口

Comisiynwyr cyngor yn ystyried adroddiad gwelliant

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys M么nFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd y comisiynwyr yn gyfrifol am y cyngor tan o leia fis Mai 2012

Mae comisiynwyr sy'n rhedeg cyngor wedi bod yn ystyried a oes yna welliannau wedi bod yng ngwaith yr awdurdod.

Dechreuodd y comisiynwyr eu gwaith ar Ynys M么n ym mis Mawrth ar 么l i Lywodraeth Cymru eu penodi.

Mae'r adroddiad wedi nodi y gallai problemau gyda pherfformiad y cyngor o'r blaen olygu na fydd yr awdurdod efallai'n gymwys i dderbyn grant cyflawn o Gronfa Gwelliant Llywodraeth Cymru.

Fe fydd holl aelodau'r cyngor yn trafod yr adroddiad terfynol yn ddiweddarach yn y mis.

Mae'r adroddiad 79 tudalen wedi pwysleisio bod y perfformiad yn y meysydd canlynol, addysg, gwasanaeth mabwysiadu, ailgylchu a chasglu gwastraff yn dda.

Ond mae wedi cyfeirio at broblemau yn y gwasanaeth tai, llyfrgelloedd a chynllunio.

Tasg y comisiynwyr, sy'n cynnwys cyn arweinydd Cyngor Sir y Fflint Alex Aldridge, cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerdydd Byron Davies a chyn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent Mick Giannasi, yw gweithredu rhaglen yr oedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi ei pharatoi yn gynharach eleni.

'Pryder'

Mae'r adroddiad wedi nodi "pryder gwirioneddol am y tueddiad bod yna leihad o dan 40% ym mherfformiad yr awdurdod yn y flwyddyn flaenorol".

Mae'r adolygu cynnydd yn effeithio ar yr arian sy'n cael ei glustnodi i'r cyngor o'r coffrau ariannol sydd dros 拢700 miliwn.

Yn 么l yr adroddiad am y tri mis cyntaf, roedd 'na gynnydd wedi bod mewn rhai meysydd ond bod angen gwella cynllunio busnes a chyllid.

Ym mis Mawrth dywedodd Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru: "Nid wyf wedi synnu clywed bod rhai gwendidau wedi eu darganfod ...

"Rwyf yn bryderus ers peth amser y byddai arweiniad gwleidyddol gwael yn tanseilio darpariaeth gwasanaethau ...

"Y dasg allweddol yw datrys y gwendidau yn effeithiol a chynaliadwy."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol