麻豆官网首页入口

Prifysgol ddim yn dilysu graddau

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CymruFfynhonnell y llun, Other

Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi y bydd ond yn dilysu graddau mewn sefydliadau sy'n llwyr o dan eu reolaeth.

Mae'r newid yn rhan o strategaeth academaidd newydd Prifysgol Cymru a gyhoeddwyd gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd.

Mae Prifysgol Cymru yn y broses o uno gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Ni fydd Prifysgol Cymru yn gorff sy'n dilysu graddau prifysgolion eraill yng Nghymru ac fe fydd yn dechrau trafod gyda'r prifysgolion hynny i dynnu'n 么l o gynnig graddau i'w myfyrwyr.

Bydd hefyd yn cau rhaglenni a gynigir mewn canolfannau yn y DU a thramor, ac yn cyflwyno model academaidd newydd.

Ffug

Fe gafodd Prifysgol Cymru ei beirniadu'n hallt mewn adroddiad yn gynharach eleni wedi i raglen Week In Week Out 麻豆官网首页入口 Cymru ymchwilio i sefydliadau ym Malaysia a Gwlad Thai oedd yn cynnig cyrsiau yn arwain at raddau yn enw'r brifysgol.

Ym mis Mehefin dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fod Prifysgol Cymru wedi "dwyn anfri" ar y genedl.

Dywedodd yr Athro Hughes: "Yn sgil newid polisi addysg uwch yng Nghymru a chreu Prifysgol Cymru sydd wedi ei thrawsnewid, rydym yn credu mai nawr yw'r amser i ni fabwysiadu strategaeth academaidd newydd sydd ond yn cynnig graddau i fyfyrwyr sydd ar gyrsiau gafodd eu cynllunio ac sydd o dan reolaeth lwyr Prifysgol Cymru.

"Rydym felly yn bwriadu dirwyn y model dilysu presennol i ben.

"Mae dyletswydd arnom i ofalu am fyfyrwyr sydd eisoes ar gyrsiau ac fe fyddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad iddyn nhw.

'Rheolaeth'

Ond o'r flwyddyn nesaf ymlaen bydd rhaid i bob prifysgol yng Nghymru naill ai gynnig eu graddau eu hunain neu wneud trefniadau eraill am gyrsiau sy'n cael eu cynnig ganddynt.

"Fe fydd ein cydweithio dramor yn seiliedig ar gyrsiau sydd wedi cael eu cynllunio, ac sy'n gyfangwbl o dan reolaeth Prifysgol Cymru, ac yn cael eu harwain gan ein staff academaidd ein hunain.

"Rydym wedi ymrwymo i r么l fyd-eang ac yn credu y gall hyn wasanaethu Cymru yn dda."

Fe fydd rhaglen arbennig Week In Week Out, 8.30pm, nos Fercher, Hydref 5.