Llafur Cymru'n cael eu cyhuddo o 'godi bwganod' am iechyd

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Andrew Lansley fod honiadau Llafur Cymru am ei gynlluniau i ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd yn 'hurt'

Mae Ysgrifennydd Iechyd San Steffan wedi ymosod yn chwyrn ar sut yr oedd y Blaid Lafur yn delio 芒'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Honnodd Andrew Lansley fod cleifion yn aros yn hirach am driniaeth nag yr oedden nhw yn Lloegr a bod gwariant ar iechyd yng Nghymru yn lleihau.

Yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion ddydd Mawrth, dywedodd fod Llafur Cymru yn "codi bwganod" am iechyd ac nad oedd modd ymddiried ynddyn nhw.

Daw ei sylwadau wedi i Lafur Cymru feirniadu camau ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Yng nghynhadledd y Blaid Lafur fis diwetha' dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod Llywodraeth San Steffan yn gwneud "llanast" o'r Gwasanaeth Iechyd a'i fod yn cael ei "ddatgymalu gan ddogma Geidwadol ac obsesiwn y blaid gyda'r farchnad".

Ychwanegodd Mr Jones fod rhestrau aros yn Lloegr yn "mynd mas o reolaeth" a bod cleifion yn cael eu gorfodi i dalu "treth tabledi" o'i gymharu 芒 Chymru ble oedd presgripsiynau am ddim.

'Codi bwganod'

Ond ddydd Mawrth dywedodd Mr Lansley y "dylai Llafur roi'r gorau i godi bwganod am y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr a dechrau mabwysiadu'r un newidiadau yng Nghymru ag yr ydym ni'n wneud yma.

"Mae pobl Cymru'n haeddu gwell. Allwch chi ddim ymddiried yn Llafur pan fo'r Gwasanaeth Iechyd yn y cwestiwn," meddai.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am amddiffyn iechyd - y maes sy'n costio fwya' i Lywodraeth Cymru - rhag effeithiau chwyddiant.

Cyfeiriodd Mr Lansley at ystadegau oedd yn awgrymu y byddai gwariant ar iechyd yn cael ei dorri 8.3% dros dair blynedd.

Dywedodd gweinidogion yng Nghymru eu bod yn cynnal y cyllid ym maes iechyd ond y byddai cwrdd 芒 galwadau'r Ceidwadwyr am ragor o arian yn golygu mwy o doriadau mewn meysydd eraill.

Honnodd Mr Lansley fod y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn rhoi triniaeth i naw o bob 10 claf o fewn 18 wythnos, tra bod y ffigwr yng Nghymru "yn nes at saith o bob 10".

'Ddim yn datgymalu'

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae 79% o gleifion yn cael triniaeth o fewn 18 wythnos tra bod canran lai yn disgwyl dros flwyddyn.

Wrth ymateb i sylwadau Mr Lansley, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths: "Yn groes i'r hyn mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, dyw Llafur ddim yn datgymalu'r gwasanaeth yng Nghymru.

"Yn groes i'r Ceidwadwyr, dyw ein rhestrau aros ni ddim yn mynd allan o reolaeth. Yn groes i'r Ceidwadwyr, dyw cleifion Cymru ddim yn gorfod talu 'treth tabledi' ar bresgripsiynau.

"Yn groes i'r Ceidwadwyr, fyddwn ni ddim yn preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd - a dydyn ni ddim yn ymddiheuro am hynny o gwbl.

"Mae'r Ceidwadwyr yn ceisio eu gorau i dynnu sylw oddi wrth eu methiannau eu hunain gyda'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

"Ond mae'n ffaith fod y Gwasanaeth Iechyd wedi'i ffurfio yng Nghymru a'i fod yn ddiogel yng Nghymru o dan Lafur."