Athrawon yn streicio dros bensiwn

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn cynnal streic undydd ddydd Mercher yn erbyn cynlluniau Llywodraeth San Steffan i dorri pensiynau.

Bydd ysgolion ar gau yn llwyr, neu rai o'u dosbarthiadau ym mhob rhan o'r wlad wrth i aelodau'r undeb ddangos eu dicter at gynlluniau'r Llywodraeth.

Hefyd bydd y streic yn effeithio ar golegau addysg bellach a phrifysgolion.

Cynhaliwyd y bleidlais dros yr haf a'r canlyniad oedd bod 89% o blaid gweithredu diwydiannol.

'Pleidlais ysgubol'

Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae aelodau UCAC wedi pleidleisio'n ysgubol o blaid streicio gan ddangos eu bod yn unedig eu barn fod ymosodiad Llywodraeth San Steffan ar bensiynau'r sector gyhoeddus, gan gynnwys pensiynau athrawon a darlithwyr, yn gwbl ddianghenraid ac yn gwbl annheg."

"Gwyddom fod y Cynllun Pensiwn Athrawon yn gynaliadwy. Nid cynaliadwyedd sydd wrth wraidd cynlluniau'n Llywodraeth, ond llenwi'r twll ariannol a wnaed gan y bancwyr.

"Mae'n anfoesol dinistrio system sy'n gweithio'n effeithiol ac sy'n darparu pensiwn teg i weithwyr - a hynny er mwyn hwylustod gwleidyddol.

"I athrawon, nid yw streicio'n benderfyniad hawdd gan ein bod yn ymwybodol iawn o'r effaith ar ddisgyblion a rhieni.

"Ond rydym yn poeni bod yr ymosodiad ar bensiynau yn effeithio'n negyddol ar safonau addysgol drwy wneud dysgu yn swydd llai deniadol ac yn gwybod bod hynny'n destun pryder i rieni hefyd."

Cefnogaeth

Er mai UCAC yw'r unig undeb sy'n streicio ddydd Mercher, mae undeb yr NUT wedi datgan eu cefnogaeth a dywedodd yr Ysgrifennydd Cymreig, David Evans: "Mae'r NUT yn cefnogi streic aelodau UCAC ar draws Cymru yn llwyr. Mae hyn yn dilyn y streic a gafwyd gan aelodau'r NUT ym mis Mehefin.

"Mae'r modd y mae San Steffan wedi targedu pensiynau athrawon yn warthus.

"Er bod cynllun pensiwn athrawon yn fforddiadwy a chynaliadwy mae'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan yn mynnu bod athrawon yn ildio mwy o'u cyflogau, yn gweithio oriau hirach ac yn derbyn llai.

"Mae'r cynllun hwn yn seiliedig nid ar economeg ond ar wleidyddiaeth ac yn gorfodi gweithwyr caled yn y sector gyhoeddus i dalu am anghyfrifoldeb bancwyr y ddinas.

"Does dim un athro am golli cyflog drwy streicio ond mae bwriad y llywodraeth yn ysgytwol.

"Mae'r gallu i atal mwy o weithredu diwydiannol yn nwylo'r glymblaid."

'Trafodaethau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan: "Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i drafodaethau diffuant gyda'r undebau - mae llawer i'w drafod ac mae nifer o gynigion ar y bwrdd.

"Ers misoedd mae trafodaethau wedi bod yn digwydd yn ganolog ac mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda'r undebau i wneud y diwygiadau angenrheidiol.

"Mae'n siomedig iawn bod nifer fechan o athrawon o undeb UCAC yn bwriadu colli diwrnod o gyflog drwy streicio pan mae'r trafodaethau'n parhau.

"Trafodaeth ddiffuant a phwrpasol yw hon yngl欧n 芒 sut i weithredu newidiadau i gyfraniadau a amlinellwyd yn yr adolygiad ar wariant cyhoeddus.

"Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i'r ddeialog er mwyn cytuno ar y ffordd ymlaen. Fodd bynnag, rhaid i'r undebau hefyd ymrwymo i drafodaeth ddiffuant er mwyn gwneud cynigion adeiladol."