100% 芒 risg gymedrol neu uchel

Ffynhonnell y llun, AP

Disgrifiad o'r llun, Gall bod yn ordrwm arwain at risg o glefyd y siwgr Math 2

Mae risg gymedrol neu uchel i bob menyw a gafodd ei phrofi mewn digwyddiad 'Cadwch yn Iach y Gaeaf Hwn' ddatblygu diabetes Math 2.

Gweithwyr Diabetes UK Cymru fu'n cynnig asesiadau risg i fenywod yn Nhre-biwt, Caerdydd.

Cafodd bawb lythyrau at eu meddygon teulu i ofyn am brofion pellach neu gyngor ar leihau eu perygl o gael y cyflwr.

Aeth llawer o fenywod o'r gymuned Somal茂aidd leol i'r digwyddiad, a menywod o leiafrifoedd ethnig yn bennaf aeth i gael asesiad risg.

'Camau i'w atal'

Dywedodd Danielle Anger, un o swyddogion Diabetes UK Cymru: "Fe gafodd nifer o fenywod eu hannog gan eu merched neu'u ffrindiau i ddod i siarad 芒 ni.

"Roedden nhw i gyd yn awyddus i ddod i wybod rhagor am ddiabetes a chymryd camau i'w atal."

Yn 么l Dai Williams, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: "Mae'r holl ddiddordeb oedd yn y digwyddiad hwn yn dangos bod mwy o ymwybyddiaeth am beryglon diabetes ymysg pobl o gymunedau'r lleiafrifoedd ethnig,"

Mae chwe gwaith yn fwy o berygl y bydd pobl o gymunedau De Asia yn datblygu'r cyflwr nag Ewropeaid gwyn ac mae cymunedau Affricanaidd Carib茂aidd du dair gwaith yn fwy mewn perygl.

Mae'r ffactorau risg eraill yn cynnwys oedran, bod dros bwysau, bod 芒 gwasg fawr, pwysau gwaed uchel a bod 芒 diabetes yn y teulu.

Gall unrhyw un leihau ei risg o gael diabetes Math 2 drwy fwyta deiet cytbwys iach, cadw at bwysau iach a bod yn egn茂ol yn gorfforol.

160,000

Mae diabetes ar tua 160,000 o bobl yng Nghymru, ac mae Math 2 ar 90% ohonyn nhw.

Mae Cymdeithas Arsyllfeydd Iechyd y Cyhoedd yn amcangyfrif bod 66,000 o bobl eraill - tua un o bob 50 - yn byw gyda diabetes heb gael diagnosis, a gallai hyn fod 芒 goblygiadau enfawr i'w hiechyd.

Gall diabetes heb ddiagnosis neu ddiabetes sydd heb ei reoli'n iawn arwain at glefyd y galon, str么c, clefyd yr arennau, dallineb a gorfod torri aelodau'r corff.