麻豆官网首页入口

Galw am newid enw Prifysgol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CymruFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd honiadau pellach am Brifysgol Cymru ar raglen Week In Week Out

Mae pump o brifysgolion mwyaf Cymru wedi galw am ddiddymu brand Prifysgol Cymru.

Mewn datganiad ar y cyd, mae Is-Gangellorion prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe wedi dweud nad ydyn nhw'n fodlon derbyn Prifysgol Cymru ar ei ffurf bresennol.

Ychwanegodd y pump eu bod wedi "arswydo" o glywed yr honiadau diweddaraf am ei chymwysterau.

Mae'r pump yn rhan o Gr诺p Dydd G诺yl Dewi gafodd ei sefydlu ym mis Mawrth 2009.

"Mae'r gr诺p wedi arswydo o glywed y datguddiadau diweddaraf am sefydliadau sy'n cynnig cymwysterau gafodd eu dilysu gan Brifysgol Cymru," meddai datganiad ddydd Mercher.

"Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu safon ardderchog yr addysg sy'n cael ei ddarparu gan brifysgolion yng Nghymru."

'Diweddglo trist'

Cafodd "sgyrsiau personol" eu cynnal rhwng Is-Gangellorion y cyrff sy'n rhan o Gr诺p Dydd G诺yl Dewi ddydd Mercher o ganlyniad i honiadau gafodd eu gwneud gan raglen Week In Week Out 麻豆官网首页入口 Cymru - rhaglen fydd yn cael ei darlledu am 8:30pm nos Fercher, Hydref 5.

Aiff y datganiad yn ei flaen i ddweud:

"Mae'r newidiadau a gyhoeddwyd yr wythnos yma gan Brifysgol Cymru yn cynrychioli newid sylfaenol i genhadaeth y brifysgol, ac mae angen teitl newydd ar y sefydliad sy'n adlewyrchu'r r么l wahanol yma - nid ydym yn fodlon ei dderbyn fel Prifysgol Cymru.

"Mae'r datblygiadau diweddaraf wedi dod 芒 hanes balch Prifysgol Cymru i ddiweddglo trist iawn - yn amlwg nid yw bellach yr un sefydliad yr oedd pedwar ohonom unwaith yn falch o fod yn aelod ohono."

Daeth ymateb Prifysgol Cymru ar ffurf datganiad gan yr Is-Ganghellor newydd, yr Athro Medwin Hughes.

"Mae Prifysgol Cymru yn mynd trwy broses o drawsnewidiad," meddai.

"Bydd y brifysgol wedi'r trawsnewidiad hwnnw yn seiliedig ar y safonau uchaf o safbwynt y drefn lywodraethol, ac fe fydd ganddi ystyriaeth ddigyfaddawd tuag at safonau."

Myfyrwyr

Wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd llywydd undeb myfyrwyr NUS Cymru, Luke Young:

"Mae'r bobl sy'n ddylanwadol mewn addysg uwch yng Nghymru wedi uno wrth gondemnio Prifysgol Cymru.

"Er bod y datganiad yn dda i'r prifysgolion sy'n rhan o'r gr诺p, nid yw'n gymorth i drawsnewid llyfn i frand Prifysgol Cymru sydd wedi cynhyrchu cannoedd o filoedd o raddedigion ar draws y byd.

"Yn amlwg mae trafodaethau am enw'r sefydliad yn dilyn yr uno gyda Phrifysgol Metropolitan Abertawe a'r Drindod Dewi Sant yn bwysig, ond fe ddylai hyn ddigwydd mewn dull trefnus.

"Mae gan Brifysgol Cymru nifer o gwestiynau i'w hateb, ond rhaid i ni beidio anghofio'r myfyrwyr sydd yng nghanol hyn i gyd ac yn gofyn beth sy'n mynd ymlaen."

Adolygiad

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru:

"Mae'r Gweinidog (Addysg - Leighton Andrews) yn pryderu am y cyhoeddusrwydd drwg sy'n parhau i fod yn gysylltiedig gyda Phrifysgol Cymru.

"Mae'r Gweinidog hefyd yn ystyried canlyniadau Adolygiad McCormick mewn perthynas 芒 Phrifysgol Cymru.

"Heddiw daeth ymgynghoriad gyda rhanddalwyr argymhellion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar ddyfodol addysg uwch yng Nghymru i ben.

"Bydd y gweinidog yn gwneud datganiad ar ei ganlyniadau ei hun am ddyfodol Prifysgol Cymru pan fydd yn ymateb i hyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol