Gwrthod galwad i ddileu Prifysgol Cymru

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer o honiadau wedi bod yn erbyn Prifysgol Cymru

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Yr Athro Medwin Hughes, wedi gwrthod galwadau i ddileu'r sefydliad.

Roedd pump o brifysgolion Cymru wedi dweud eu bod wedi eu dychryn wedi i raglen 麻豆官网首页入口 Cymru ddatgelu cynllwyn oedd yn cynnig help i fyfyrwyr tramor dwyllo er mwyn cael gradd wedi ei dilysu gan Brifysgol Cymru.

Dywedon nhw eu bod yn poeni bod Prifysgol Cymru'n peryglu enw da addysg uwch.

Roedd 'na honiadau yn rhaglen Week In Week Out 麻豆官网首页入口 Cymru nos Fercher fod rhai cyrff 芒 chysylltiad 芒 Phrifysgol Cymru wedi sicrhau fisa i fyfyrwyr trwy dwyll.

Dydd Iau fe gyhoeddwyd bod prif weithredwr bwrdd arholi, yr honnwyd eu bod wedi gwneud cynigion i fyfyrwyr gael fisa, wedi ymddiswyddo.

Mae Asiantaeth y Ffiniau wedi cynnal cyrchoedd fel rhan o'u hymateb i ymchwiliad 麻豆官网首页入口 Cymru.

Ynghynt yn yr wythnos fe ymddiswyddodd Irvin Harris fel Cofrestrydd Coleg Rayat Llundain coleg oedd wedi cynnig graddau Prifysgol Cymru.

Dywedodd ei fod yn ymddiswyddo "er mwyn gwarchod enw da y cwmni PQM" a'i fod yn gwadu unrhyw honiadau o ddrwgweithredu.

Ar raglen Post Cyntaf dywedodd Yr Athro Hughes, a gychwynnodd fel Is-Ganghellor newydd Prifysgol Cymru ddydd Llun, iddo gael "wythnos gyntaf ddiddorol iawn".

"Dwi wedi gwrando yn ofalus iawn ar sylwadau fy nghyfeillion o fewn y prifysgolion eraill yn galw am ddod 芒 brand Prifysgol Cymru i ben ar sail gwaith dilysu.

Disgrifiad o'r sainAlun Thomas yn holi'r Athro Medwin Hughes

"Dwi ddim yn derbyn hynny - os oes angen delio 芒 phroblemau, yna delio 芒 phroblemau.

"Mae yna beryg weithiau ein bod yn cael gwared ar frand heb sylweddoli oblygiadau hynny.

"Mae'r sefydliadau sy'n galw am ddiddymu brand Prifysgol Cymru, fe fyddai pob un o'r sefydliadau yna yn elwa yn ariannol o weld y brand yn mynd.

"Dyma frand cenedlaethol - brand all fynd ar draws y byd o'i wneud yn iawn.

"Ar hyn o bryd mae addysg uwch yng Nghymru yn diodde' am fod prifysgolion yn dadlau gyda'i gilydd yn lle gweithredu ar ran Cymru ac ar ran argymhellion y llywodraeth."

Niweidio enw da

Dydd Mercher dywedodd Is-Gangellorion Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe - sydd ddim yn aelodau o Brifysgol Cymru - nad ydyn nhw'n fodlon derbyn Prifysgol Cymru ar ei ffurf bresennol.

Mynnodd y gr诺p - sy'n cael eu hadnabod fel Gr诺p Dydd G诺yl Dewi - fod gweithgareddau Prifysgol Cymru wedi ac yn dal i niweidio enw da addysg uwch yng Nghymru, ac nad oedd gan y sefydliad yr hawl bellach i ddefnyddio'r brand.

"Mae'r gr诺p wedi eu dychryn o glywed y datgeliadau diweddaraf am sefydliadau sy'n cynnig cymwysterau gafodd eu dilysu gan Brifysgol Cymru," meddai datganiad ddydd Mercher.

"Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu safon ardderchog yr addysg sy'n cael ei darparu gan brifysgolion yng Nghymru.

"Mae'r datblygiadau diweddaraf wedi dod 芒 hanes balch Prifysgol Cymru i ddiweddglo trist iawn - yn amlwg nid yw bellach yr un sefydliad yr oedd pedair ohonom unwaith yn falch o fod yn aelod ohono."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John Hughes, fod sefydliad o Singapore am atal gweithio gyda'i brifysgol er nad oedd Prifysgol Bangor yn aelod o Brifysgol Cymru.

"Fe ddywedon nhw fod y brand bellach wedi ei heintio," meddai.

"Rydym hefyd wedi cael cwestiynau gan bartneriaid sydd gennym mewn llefydd fel China yn gofyn am ein perthynas gyda Phrifysgol Cymru."