Galw ar gadeirydd Prifysgol Cymru i ymddiswyddo

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Dywed Prifysgol Cymru mai delio gyda'i phroblemau yw'r nod

Dylai cadeirydd Prifysgol Cymru adael ei swydd yn 么l y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

Galwodd Mr Andrews am ymddiswyddiad D Hugh Thomas yn dilyn ymchwiliad 麻豆官网首页入口 Cymru i golegau oedd yn gwerthu cymwysterau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru.

Dywedodd Mr Andrews fod y sylw i'r mater yn niweidiol i Gymru ac na ellid caniat谩u i "gamreolaeth" danseilio'r sector addysg uwch.

Gofynnwyd i'r brifysgol ymateb i sylwadau'r gweinidog.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Andrews ei fod wedi galw sawl gwaith ar gorff llywodraethol Prifysgol Cymru i gymryd cyfrifoldeb am fethiannau ei threfniadau dilysu cymwysterau allanol.

'Niweidiol i Gymru'

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth rhaglen Week In Week Out 麻豆官网首页入口 Cymru ddatgelu bod myfyrwyr tramor wedi cael cynnig i dwyllo er mwyn cael cymwysterau fyddai'n arwain at radd Prifysgol Cymru a theitheb 么l-radd i ddod i'r DU.

Meddai Mr Andrews: "Mae'r sylw drwg sy'n gysylltiedig 芒 Phrifysgol Cymru yn niweidiol, nid dim ond i'r sefydliad ei hun, ond i'r sector addysg uwch ac i Gymru gyfan.

"Yn wyneb honiadau pellach yn y cyfryngau'r wythnos ddiwethaf, credaf nad oes modd i Brifysgol Cymru barhau o dan yr arweiniad presennol.

"Yr wythnos ddiwethaf, fe ddechreuodd Is-Ganghellor newydd ar ei waith gyda Phrifysgol Cymru a dwi'n dymuno pob llwyddiant i'r Athro Medwin Hughes yn ei r么l newydd.

"Ond rwy'n galw ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru i ystyried ei sefyllfa er budd y sefydliad a Chymru.

"Nid wyf yn dweud hyn yn ysgafn, ond ni allwn gael sefyllfa lle mae catalog o gamreoli yn tanseilio'r sector addysg uwch gyfan yng Nghymru."

Ymchwiliad

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Ni fydd myfyrwyr Prifysgol Glynd诺r yn cael cynnig graddau Prifysgol Cymru yn y dyfodol

Yn dilyn rhaglen y 麻豆官网首页入口, fe alwodd pump o brifysgolion mwyaf Cymru am gael gwared 芒 brand Prifysgol Cymru.

Mae Asiantaeth Ffiniau'r DU yn cynnal ymchwiliad i'r materion a godwyd yn y rhaglen.

Yna ddydd Gwener cyhoeddodd Prifysgol Glynd诺r yn Wrecsam na fyddai'n cynnig graddau Prifysgol Cymru mwyach, gyda Phrifysgol Casnewydd yn awgrymu y byddan nhw'n dilyn.

Ond mynnodd yr Athro Medwin Hughes mai delio gyda phroblemau Prifysgol Cymru oedd ei fwriad yn hytrach na diddymu'r brand.