Llywodraeth Cymru'n cynnig gostwng pris prydau ysgol

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru am i ysgolion gael rhagor o reolaeth dros brisiau prydau ysgol

Fe allai fod yn rhatach i deuluoedd gyda mwy nag un plentyn i brynu cinio ysgol, o dan gynlluniau i newid y gyfraith.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai'r newid annog rhieni i ddewis ciniawau ysgol i'w plant a helpu teuluoedd ar incwm isel sydd ddim yn gallu hawlio prydau am ddim ar hyn o bryd.

Mae'r newidiadau wedi eu cyhoeddi mewn Papur Gwyn ar wella safonau ysgolion.

Mae gweinidogion hefyd yn bwriadu atal ysgolion a chynghorau rhag gofyn am fwy na'r gost o gynnig bwyd a diod i'r plant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn rhwystro cynghorau rhag helpu teuluoedd sydd 芒 mwy nag un plentyn trwy eu hatal rhag gostwng prisiau ar gyfer yr ail blentyn, neu drwy ofyn am lai o arian ar gyfer y plant ieuengach.

Ar hyn o bryd, does dim uchafswm ar gostau ciniawau ysgol ac mae'n rhaid gorfodi pob plentyn i dalu'r un pris.

Yn y Papur Gwyn, mae'r llywodraeth yn dweud bod yr awdurdodau lleol yn croesawu ffordd fwy hyblyg o godi arian am giniawau ysgol.

Mae'r papur yn cynnig diddymu'r ddeddf bresennol fel y gall y cynghorau a chyrff llywodraethu ysgolion gael rhyddid i godi gwahanol bris ar wahanol ddisgyblion.

Byddai codi costau hyblyg o'r fath yn "opsiynol hollol" ac yn golygu penderfyniad lleol yngl欧n 芒 rhoi cymhorthdal i dalu am brydau yn ystod y cyfnod", meddai'r Papur Gwyn.

Gallai prydau rhatach gael eu cynnig am gyfnod cyfyngedig i blant ysgol babanod, meithrin a chynradd.

Gwella perfformiad

Dywedodd y llywodraeth eu bod eisiau helpu plant o deuluoedd incwm isel sydd ddim, ar hyn o bryd, yn gymwys i gael prydau am ddim ac felly cynyddu'r niferoedd sy'n derbyn cinio yn yr ysgol.

Bydd mesur Safonau a Threfniadau Ysgolion hefyd yn newid y drefn ar gyfer ymyrryd ag ysgolion sy'n achosi pryder, er enghraifft pan fo safonau perfformiad yn annerbyniol o isel.

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg; "Mae codi safonau a pherfformiad mewn addysg yng Nghymru yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyfleoedd gorau mewn bywyd i'n plant a phobl ifanc.

"Bydd y mesur Safonau Ysgolion rydym yn ei gynnig yn ei gwneud hi'n haws i ni gyflwyno'r newidiadau angenrheidiol i godi safonau addysg yng Nghymru yn gyffredinol."