麻豆官网首页入口

Perchennog newydd i hen blasty Gelli Aur

  • Cyhoeddwyd
Plasty Gelli AurFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y plasty ei godi gan Iarll Cawdor

Bydd un o blastai mwyaf adnabyddus Cymru yn cael ei adnewyddu a'i agor fel canolfan y celfyddydau.

Cafodd plasty Gelli Aur ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin ei godi yn 1834 gan Iarll Cawdor.

Roedd hynny ar safle plasty arall gafodd ei godi yn wreiddiol yn 1560 gan deulu'r Fychaniaid, oedd yn ddisgynyddion Tywysogion Powys.

Dywed Ymddiriedolaeth y Gelli Aur mai'r bwriad yw adfer y plasty a'r gerddi.

Yna fe fydd canolfan i'r celfyddydau yn cael ei agor ar y safle.

Doedd dim manylion pellach ar hyn o bryd.

Ond yn y gorffennol roedd darpar brynwyr wedi amcangyfrif y byddai'n costio 拢5 miliwn i adfer y safle.

Lladrad

Un o'r enwau tu cefn i'r fenter diweddara yw Richard Salmon, gwerthwr lluniau o Lundain.

Roedd gan y cyngor sir les ar yr eiddo.

Bydd y cyngor yn parhau i fod yn gyfrifol am yr yst芒d am y 18 mis nesa.

Yn y cyfamser mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ladrad o'r adeilad.

Digwyddodd y lladrad ddyddiau yn unig ar 么l i'r plasty gael ei werthu.

Deellir fod llefydd t芒n, sawl canhwyllbren ac eitemau gwerthfawr eraill wedi eu cymryd.