Athrofa yn cefnu ar Brifysgol Cymru

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Prifysgol Cymru: Y sefydliad dan bwysau

Mae Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd yn newid ei henw i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn rhoi'r gorau i roi graddau yn enw Prifysgol Cymru.

Golyga'r newid na fydd y sefydliad yn arddel enw Prifysgol Cymru.

UWIC yw'r ddiweddara i dorri ei chysylltiad 芒 Phrifysgol Cymru.

Mae'n dilyn cynlluniau tebyg gan Brifysgol Glynd诺r, Wrecsam, a phrifysgol Casnewydd.

Daeth y newyddion am y newidiadau mewn e-bost at staff yr athrofa.

Daw'r newyddion yn sgil ymchwiliad gan 麻豆官网首页入口 Cymru i honiadau o dwyll yn ymwneud 芒 fisas myfyrwyr mewn colegau oedd yn cynnig cymwysterau wedi eu dilysu gan Brifysgol Cymru

Mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi galw am ymddiswyddiad cadeirydd cyngor y brifysgol, D Hugh Thomas.

Ddydd Mercher dywedodd Mr Andrews wrth 麻豆官网首页入口 Cymru fod angen i'r brifysgol nawr gael 'claddedigaeth barchus'.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Uwic na fyddai'n rhan o gynllun i greu prifysgol enfawr yn y de ddwyrain drwy uno gyda Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg.