Airbus yn agor ffatri adenydd newydd ar gyfer yr A350

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Bydd tua 650 o bobl yn gweithio yn y ffatri newydd

Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi agor ffatri newydd sy'n werth 拢400 miliwn ar safle Airbus yn Sir y Fflint.

Bydd tua 650 o bobl yn gweithio yn y ffatri newydd 46,000 metr sgw芒r ac yno bydd adenydd ffibr carbon ar gyfer awyren newydd yr A350 yn cael eu cynhyrchu.

Eisoes mae'r cwmni'n cyflogi 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn a hwn yw'r safle cynhyrchu unigol mwya yn y DG.

Dywedodd Mr Cameron: "Mae'r llywodraeth yn ymroddedig i economi fwy cytbwys, mwy o swyddi yn y sector gynhyrchu, allforio a buddsoddi preifat ...

340 o deithwyr

"Dwi'n croesawu'r agoriad hwn sy'n rhan o'n rhaglen ni wrth greu twf economaidd cynaliadwy."

Dywedodd fod y buddsoddi ar safle Airbus yn dangos eu hyder yn y gweithwyr.

Bydd modd i'r awyren A350 gario hyd at 340 o deithwyr ac mae disgwyl i'r awyrennau cyntaf wasanaethu cwsmeriaid erbyn 2013.

Yn 么l Airbus, fe fydd yn diogelu swyddi am flynyddoedd.

Mae gan y cwmni eisoes archebion am 550 o'r awyrennau.

Fe fydd dros hanner yr adenydd yn cael eu gwneud o ffibr carbon ac, yn 么l y cwmni, fe fydd yr awyren A350 25% yn fwy effeithiol o ran tanwydd na'r awyrennau eraill o'r un maint.

Hwn yw'r agoriad mwya ym Mrychdyn ers agor y Ffatri Orllewinol yn 2003 er mwyn adeiladu adenydd yr awyren jumbo A380.

Technoleg ddiweddara

"Mae gan Frychdyn hanes balch, 70 mlynedd o hanes ym myd adeiladu awyrennau," meddai Paul McKinlay, pennaeth safle Airbus ym Mrychdyn.

"Mae'n wych gweld ein bod yn dal ar y blaen o ran technoleg gyda'r prosesau diweddara.

"Dwi'n hynod o falch bod Brychdyn yn rhan o hyn.

"I'r gweithwyr, mae'r ffatri newydd a'r awyren newydd yn arwydd o ddiogelu swyddi dros y blynyddoedd nesaf.

"I'r 6,000 o weithwyr yma, mae'n newyddion gwych."

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Darlun cyfrifiadur o'r Airbus A350 yn yr awyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron 拢29 miliwn mewn hyfforddiant arbenigol.

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, oedd hefyd yn yr agoriad: "Mae'n ddiwrnod gwych, nid yn unig i Airbus ond i Gymru hefyd.

"Mae'r adenydd yn cael eu cynhyrchu yma, yn dystiolaeth ohonon ni ar ein gorau - cwmni byd-eang yng Nghymru yn gwneud cynnyrch fydd yn cael ei ddefnyddio ym mhedwar ban y byd.

"Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas waith agos a da gydag Airbus sy'n gwmni pwysig i'r wlad.

"Rydym wedi buddsoddi 拢29 miliwn er mwyn sicrhau bod y Ffatri Ogleddol yn agor yma yng Nghymru ac y bydd modd i adenydd yr A350 gael eu hadeiladu yma."

'Pwysig iawn'

Dywedodd Ll欧r Huws Gruffydd, AC Gogledd Cymru Plaid Cymru, fod y newyddion yn dangos hyder yn y gweithlu lleol.

"Pan yw hi'n anodd dod o hyd i waith, mae swyddi arbenigol yn y ffatri newydd yn bwysig iawn."

Mae awyren yr A350 yn cystadlu yn erbyn awyren Boeing Dreamliner 787, a oedd i fod yn yr awyr erbyn 2008 ond sydd wedi ei ohirio.

Mae gan Boeing 821 archeb am yr awyren 787, sydd, yn 么l y cwmni 20% yn fwy effeithiol o ran tanwydd.