Beirniadu'r gofal gafodd claf

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Bu farw'r claf ym mis Mai 2009

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi beirniadu triniaeth dyn yn Ysbyty Gwynedd.

Aed 芒'r claf, Mr W, i'r ysbyty ym Mangor oherwydd problemau llyncu.

Mae'r adroddiad, sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, wedi cyfeirio at gyfres o fethiannau clinigol ond wedi dweud nad oes 'na dystiolaeth i brofi bod ei farwolaeth o ganlyniad i'r methiannau.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn derbyn casgliadau'r Ombwdsmon yn llawn.

Roedd gwraig y claf, Mrs W, wedi cwyno am ei driniaeth.

Er bod Mr W wedi mynd i'r ysbyty gyda phroblemau llyncu ym mis Ebrill 2009 cafodd ei ryddhau cyn dychwelyd i'r ysbyty bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Roedd ei gyflwr wedi gwaethygu.

'Dim digon'

Cwyn Mrs W oedd bod safon gofal ei g诺r yn wael iawn pan aeth i'r ysbyty a bod hynny wedi arwain at ei gyflwr yn gwaethygu ac yn y pen draw at ei farwolaeth ym mis Mai 2009.

Dywedodd yr Ombwdsmon, Peter Tyndall, fod y gofal clinigol yn annerbyniol.

"Doedd 'na ddim digon o gefnogaeth gan y meddyg ... roedd 'na gyfres o fethiannau clinigol a ychwanegodd at broblemau iechyd Mr W."

Eglurodd mai'r prif fethiant oedd ei fod wedi cael ei ryddhau heb gael triniaeth ar y llwnc a bod 'na oedi wrth drafod ag ysbyty arbenigol.

"Er bod 'na fethiannau, doedd 'na ddim tystiolaeth benodol i brofi bod ei farwolaeth oherwydd y methiannau," meddai.

"Roedd y gofal nyrsio a rheoli Mr W yn dderbyniol er bod 'na ddiffygion gwaith cofnodi a rwystrodd casgliadau pendant rhag cael eu nodi."

Dywedodd ei fod yn argymell y dylai'r bwrdd iechyd ystyried yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad a bod angen i staff fod yn ymwybodol o ganllawiau yng nghyd-destun triniaeth y llwnc.

拢500

Roedd hefyd yn pwysleisio'r angen am staff meddygol ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r banc.

"Dwi'n argymell rhoi swm o 拢500 i Mrs W i gydnabod y pryder a'r drafferth o barhau gyda'r gwyn a hynny gydag ymddiheuriad llawn am y methiannau gofal."

Dywedodd Mark Scriven, Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod y safonau yn yr achos yn is na disgwyliadau cleifion a'u teuluoedd.

"Mae hi'n flaenoriaeth i'r holl staff a'r arweinwyr yn y bwrdd iechyd i ymateb i adroddiad yr Ombwdsmon ac rydym wedi cytuno rhestr o flaenoriaethau fydd yn adeiladu ar yr hyn yr ydym eisoes wedi ei wneud.

"Ac mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod y staff yn ymwybodol o'r canllawiau, hyfforddiant ychwanegol ar gael lle bo angen, ac mi fyddwn ni'n adolygu'n gofal dros y penwythnos ac ar wyliau banc."