麻豆官网首页入口

S4C yn 'gorff llai ond yn fwy effeithiol erbyn 2015'

  • Cyhoeddwyd
Huw JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Huw Jones yn s么n am weledigaeth S4C am y pedair blynedd nesaf

Mae disgwyl i Huw Jones ddweud ddydd Mawrth y bydd S4C yn "gorff llai ond yn fwy effeithiol erbyn 2015".

Bydd Cadeirydd Awdurdod S4C ymhlith sawl un fydd yn annerch cynhadledd undydd am ddyfodol darlledu yng Nghymru.

Sefydliad Materion Cymreig sy'n cynnal y gynhadledd wrth i'r diwydiant wynebu cyfnod anodd.

Mae'r 麻豆官网首页入口 yn wynebu toriadau cyllid ac mae 'na ffrae am ariannu S4C ac ITV yn cynnig llai o wasanaethau yng Nghymru.

Yn 么l y sefydliad, mae 'na ymwybyddiaeth nad oes digon o ddylanwad o Gymru dros bolisi.

Cyd-weithio

Mae'n gyfnod o newid yn y diwydiant wrth i 麻豆官网首页入口 Cymru ac S4C gael arweinwyr newydd.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn annog mwy o gydweithio rhwng y 麻豆官网首页入口 ac S4C yn ogystal 芒 cheisio hybu teledu lleol.

Fe fydd 'na drafod am yr hyn sy'n wynebu'r diwydiant yn ystod y 10 mlynedd nesaf yn y gynhadledd.

Mae disgwyl i Mr Jones, Prif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005, egluro y bydd y sefydliad yn aml-gyfryngol ac yn gyfrifol am gomisiynu a darlledu cynnwys gwreiddiol fydd yn gyfraniad pwysig "i ddiwylliant deniadol a chyfoethog drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg".

'Pellgyrhaeddol'

"Fe fydd yn hwyluso mynediad i'r gwasanaeth i'r rhai hynny sydd ddim yn siarad Cymraeg.

"Fe fydd y sianel yn bartner effeithiol i'r 麻豆官网首页入口 gan reoli ei hun ond gan fod yn atebol i Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 am ei defnydd o arian y drwydded ac i'r llywodraeth am yr arian cyhoeddus arall."

Fe fydd Mr Jones yn dweud y bydd S4C yn 2015 yn rhan "annatod o ddatblygiad a pharhad y Gymraeg ac yn gwneud cyfraniad economaidd a diwylliannol pellgyrhaeddol".

Ymhlith y siaradwyr eraill mae Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr 麻豆官网首页入口 Cymru, Guy Phillips o ITV, Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, a Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Tinopolis.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol