麻豆官网首页入口

S4C: Cadarnhau penodiad Ian Jones

  • Cyhoeddwyd
Ian JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ian Jones yw prif weithredwr newydd S4C

Mae S4C wedi cadarnhau mai Ian Jones fydd prif weithredwr newydd y sianel.

Dywedodd Cadeirydd S4C Huw Jones ei fod yn gobeithio y byddai Mr Jones yn dechrau ei swydd newydd erbyn Ebrill 2012 fan bellaf.

Yn y cyfamser, mae Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 wedi dweud eu bod nhw'n disgwyl rhoi s锚l bendith ddechrau wythnos nesa' i setliad ariannol "hael" gydag S4C.

Fe fydd y cytundeb yn para tan 2017.

Daw'r cyhoeddiad am y setliad yr un diwrnod 芒'r newyddion am benodiad Ian Jones sydd ar hyn o bryd yn uwch-swyddog cwmni teledu yn Efrog Newydd.

'Pryderon'

Dywedodd Cadeirydd S4C fod posibilrwydd y byddai Ian Jones yn dechrau ar ei waith "cyn Ebrill."

Bydd yn olynu Arwel Ellis Owen, prif weithredwr dros dro'r sianel.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi llongyfarch Mr Jones ar ei benodiad.

Ychwanegodd: "Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf rydyn ni wedi mynegi ein pryderon i Lywodraeth y DU am effaith ei thoriadau ariannu ar S4C.

"Rydw i a'r Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis, wedi gwneud yn glir ei bod yn hanfodol i S4C aros yn annibynnol o'r 麻豆官网首页入口 yn olygyddol ac yn weithredol ac rydyn ni wedi ailadrodd hyn i'r ddwy sianel yn ddiweddar. Mae'n bwysig sicrhau ariannu'r sianel yn y tymor hir.

"Rydyn ni'n credu y dylid cynnal adolygiad sylfaenol o S4C i gyfrannu at gyfeiriad y sianel yn y dyfodol.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Ian i sicrhau bod S4C yn chwarae r么l lawn wrth gyfrannu at ddiwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg."

'Tasg anodd'

Wrth ei longyfarch, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg a diwylliant, Bethan Jenkins, fod Mr Jones yn wynebu "tasg anodd" wrth ymuno 芒'r S4C ar adeg ble mae'n dod o dan ofal y 麻豆官网首页入口 ac yn gorfod gwneud nifer o doriadau gwariant.

"Rwy'n gobeithio y bydd S4C o dan ofal Ian Jones yn gallu adennill ei lle fel darparwr rhaglenni egn茂ol, hynod greadigol a llawn dyhead, sy'n mynegi'n argyhoeddiadol beth sy'n bosib ei gyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg."

Fore Mawrth cyhoeddodd Elan Closs Stephens, sy'n cynrychioli Cymru ar Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口, ei bod hi'n disgwyl cadarnhad ddydd Llun fod cytundeb rhwng y 麻豆官网首页入口 ac S4C fydd yn sicrhau setliad tan 2017.

Yn y cyfamser, cyhoeddodd Cadeirydd S4C y byddai'r sianel yn cael gwared ar geir cwmni ac yswriant iechyd preifat i'w staff.