麻豆官网首页入口

Tinopolis yn ennill cytundeb

  • Cyhoeddwyd
Oriel gynhyrchu teleduFfynhonnell y llun, bbc

Daeth cadarnhad oddi wrth S4C mai cwmni Tinopolis sydd wedi ennill yr hawl i gynhyrchu rhaglenni'r prynhawn, rhaglenni cylchgrawn gyda'r nos a rhaglen nos Sul.

Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ym mis Mawrth 2012.

Roedd y cwmni wedi awgrymu y byddai colli'r cytundeb yn ergyd drom.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu y Sianel, fod y broses dendro wedi bod yn hynod gystadleuol ac wedi creu cyfle i wneud arbedion ariannol sylweddol "yn ogystal 芒 sicrhau gwasanaeth a rhaglenni o'r safon uchaf bosib i wylwyr S4C."

Daw'r cyhoeddiad am y tendr, sy'n werth uchafswm o 拢5.1 miliwn y flwyddyn, ar ddiwedd cyfnod prysur i'r t卯m comisiynu a'r cwmn茂au cynhyrchu.

Fe ddaeth bron i 1,000 o syniadau a chynigion i law fel rhan o broses arall - Ffenestr Gomisiynu gyntaf S4C ar gyfer amserlen 2012.

'Her'

Mae 25 o gwmn茂au gwahanol yn cael comisiynau ar sail y Ffenestr gyntaf hon, gan gynnwys ystod eang o raglenni fydd yn cynnig amserlen "gyffrous a chreadigol o'r safon uchaf."

Dywedodd Mr Rowlands: "Mae'r broses gomisiynu wedi bod yn her i'r cwmn茂au cynhyrchu ac i S4C yn wyneb y toriadau yng nghyllid y sianel ar gyfer 2012.

"Mae'n amlwg y bydd rhai cwmn茂au ac unigolion wedi cael siom yn wyneb y cyhoeddiadau diweddar.

"Ond mae'n rhaid pwysleisio y bydd cyfleoedd eraill i gynnig am gomisiynau a bydd y cyfle nesaf yn digwydd ddiwedd mis Hydref pan fydd yr ail Ffenestr Gomisiynu yn agor.

"Mae'r sianel hefyd yng nghanol proses aildendro agored ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau eraill ar gyfer amserlen 2012."