S4C: 'Cefnogwch argymhellion'

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae'r mudiadau'n credu mai'r argymhellion hyn ddylai lywio camau nesaf y llywodraeth wrth benderfynu yfodol y sianel

Mae Mudiadau Dathlu'r Gymraeg wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i fabwysiadu argymhellion y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar ddyfodol S4C.

Cafodd yr adroddiad ym mis Mai a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion allweddol:

  • cynnal adolygiad annibynnol o S4C cyn gynted 芒 phosib;
  • cadarnhau fformiwla ariannu tymor hir wedi'i sicrhau mewn statud gwlad;
  • cwtogiadau llai ar gyllideb y sianel, sef cyffelyb 芒 darlledwyr cyhoeddus eraill;
  • creu S4C aml-blatfform newydd;
  • rhoi r么l mwy blaenllaw i Lywodraeth Cymru yn y berthynas gydag S4C a sicrhau mwy o atebolrwydd a thryloywder gan y sianel i'r dyfodol.

Mudiad ymbar茅l yw Mudiadau Dathlu'r Gymraeg sy'n cynrychioli nifer o fudiadau Cymraeg.

Wrth i Fesur Cyrff Cyhoeddus fynd frwy'r Senedd ar hyn o bryd mae'r mudiadau'n credu mai'r argymhellion hyn ddylai lywio camau nesaf y llywodraeth wrth benderfynu dyfodol y sianel.

"Rydym yn croesawu argymhellion y pwyllgor ac yn credu y dylai'r Llywodraeth arddangos eu hymrwymiad i ddyfodol S4C trwy roi'r argymhellion hynny ar waith," meddai Tegwen Morris ar ran Mudiadau Dathlu'r Gymraeg.

"Yn sgil penodi Cadeirydd a Phrif Weithredwr newydd i'r Sianel yn ystod yr wythnosau diwethaf, credwn nad dyma'r amser i fod yn gwneud penderfyniadau mympwyol yngl欧n 芒 dyfodol y Sianel.

"Wrth gydnabod fod y llywodraeth eisoes yn bwrw 'mlaen gyda'u cynlluniau ar hyn o bryd, ystyriwn mai'r cam cyntaf mwyaf rhesymegol ydyw cynnal adolygiad annibynnol cynhwysfawr a thrylwyr cyn rhuthro i gynnwys S4C mewn unrhyw ddeddf gwlad allai beryglu ei bodolaeth.

"Ategwn felly alwadau a gafwyd eisoes gan arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru i gynnal adolygiad llawn o'r sianel cyn penderfynu unrhyw beth."

Dywedodd bod S4C wedi bod yn "gonglfaen i ddiwylliant Cymru" ers ei sefydlu ar ddechrau'r 1980au ac yn "fuddsoddiad unigryw yn yr iaith Gymraeg a'r diwydiant cyfryngol".

"Chwaraeodd ran ganolog wrth normaleiddio'r iaith Gymraeg, trwy sicrhau fod plant yn clywed yr iaith tu allan i'r ysgol a thrwy gynhyrchu rhaglenni o safon ryngwladol," meddai.

"Rydym felly yn gofyn am gynnal adolygiad ar fyrder er mwyn hwyluso a thrafodaeth gyhoeddus ystyrlon ar ddyfodol y sianel a hynny mewn ymgynghoriad llawn 芒 phobl Cymru."