麻豆官网首页入口

Athrawon yn gwrthdystio am bensiynau

  • Cyhoeddwyd

Mae athrawon a darlithwyr o Gymru yn ymgynnull yn Senedd y DU ddydd Mercher i brotestio yn erbyn toriadau pensiwn 'didostur' yn y sector addysg.

Mae'r gweithredu yn rhan o ymgyrch ar y cyd gan saith o'r prif undebau addysg i dynnu sylw at rai o'r dadleuon ar bensiynau a llymder y toriadau.

Y saith undeb sy'n rhan o'r ymgyrch yw Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU), Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL), Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr (ATL), Cymdeithas Cenedlaethol Prif Athrawon (NAHT), Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT), NASUWT ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC).

Nod yr ymgyrch, sef 'Pensiynau Teg: Diogelu'r Dyfodol i Bawb', yw sicrhau bod cynrychiolydd o bob ysgol a choleg a phrifysgol yng Nghymru a Lloegr yn bresennol yn yr ymgyrch lob茂o, a bydd llawer o sefydliadau yn anfon grwpiau o staff i gefnogi'r ymgyrch.

Hanner tymor

Cynhelir yr ymgyrch lob茂o yn ystod gwyliau hanner tymor er mwyn osgoi amharu ar addysg plant ac osgoi anghyfleustra i rieni.

Ond mae'r saith undeb yn pwysleisio eu bod yn dal i ystyried gweithredu'n ddiwydiannol os yw'r llywodraeth yn parhau i dorri pensiynau.

Bydd athrawon a darlithwyr o Gymru hefyd yn cyfarfod 芒'u Haelodau Seneddol lleol yn ystod yr ymgyrch lob茂o yn y prynhawn.

'Gwarthus'

Dywedodd un athro: "Mae'r ffaith bod athrawon a darlithwyr o bob rhan o'r wlad yn treulio diwrnod o'u gwyliau hanner tymor yn teithio i Lundain i lob茂o Aelodau Seneddol yn dangos pa mor gryf yw eu gwrthwynebiad.

"Mae'r proffesiwn wedi uno'n gadarn i gondemnio'r ffordd warthus y mae ein pensiynau'n cael eu hysbeilio er mwyn talu'r ddyled genedlaethol.

"Fodd bynnag, os yw'r llywodraeth yn parhau i dorri pensiynau, y gwyddant eu bod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy, ni fydd unrhyw ddewis arall gan athrawon ond gweithredu ymhellach, yn cynnwys mynd ar streic.

"Anogwn y llywodraeth i wrando ar neges yr ymgyrch lob茂o hon.

"Ni all athrawon oddef gweld eu pensiynau'n cael eu torri am resymau gwleidyddol yn unig.

"Mae'n bosib osgoi gweithredu diwydiannol pellach, ond mae angen i'r llywodraeth gyd-drafod yn deg er mwyn sicrhau hynny."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol