麻豆官网首页入口

Arfordir Cymru yw'r 'gorau yn y byd'

  • Cyhoeddwyd
Llwybr arfordir Cymru ym Mhorth Stinian, Sir Benfro. Llun: Mari Owen PhotographyFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd llwybr arfordir Cymru yn agor yn gyfan ym mis Mai 2012

Cafodd arfordir Cymru ei enwi "y lle gorau ar y ddaear" i ymweld ag e gan lyfr teithio enwog.

Mae'r arfordir yn cael sylw arbennig gan y llyfr 'Lonely Planet's Best in Travel 2012' sy'n nodi'r lleoedd gorau i fynd dros y 12 mis nesaf.

Ym mis Mai 2012, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i gynnig llwybr ffurfiol ar hyd yr arfordir cyfan i dwristiaid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cael cydnabyddiaeth o'r llwybr yn "newyddion gwych".

Mae'r llyfr, sy'n cael ei gyhoeddi am y seithfed blwyddyn, yn nodi 10 o wledydd, 10 rhanbarth a 10 dinas a gafodd eu dewis gan arbenigwyr teithio fel y lleoedd gorau i ymweld 芒 nhw.

"Pa ffordd well i wir werthfawrogi siap - ac enaid - cenedl?", medd y llyfr wrth drafod y llwybr arfordirol.

Aiff ymlaen i ddweud: "Am syniad bendigedig: cael cerdded ar hyd arfordir gwlad ar ei hyd ac i chwilio pob twll a chornel, pob clogwyn, bwlch ac aber.

"Wel yn 2012, Cymru fydd yr unig wlad yn y byd lle medrwch wneud hynny.

"Bydd llwybr arfordir Cymru yn ymlwybro'n ddi-dor o Gas-gwent yn y de i gyffiniau Queensferry yn y gogledd, gan basio clogwyni danheddog, traethau tywodlyd a chestyll godidog a gwneud 1,377km o arfordir yn gyrraeddadwy."

Dywedodd Sue Rice, rheolwr cynllun y llwybr arfordirol i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, bod y newyddion yn gyffrous.

"Gobeithio y bydd agor y llwybr cyflawn nid yn unig yn annog ymwelwyr i Gymru, ond hefyd yn annog pobl leol i fwynhau gweithgaredd awyr iach," meddai.

"Mae'r awdurdodau lleol ar hyd y llwybr wedi rhoi cymaint o ymdrech i alluogi hyn i ddigwydd.

"Mae eu hymroddiad a'u gwaith caled wedi caniatau i'r cynllun ddigwydd ac rydym yn edrych ymlaen i'w weld yn agor yn y gwanwyn.

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, fod cael cydnabyddiaeth i'r llwybr arfordirol yn "newyddion gwych".

"Pan fydd yn agor bydd y llwybr yn darparu hwb i'r economi leol ar hyd arfordir Cymru," meddai.

Bydd y llwybr cyflawn yn agor yn swyddogol ar Fai 5, 2012.

Dywed y Cyngor Cefn Gwlad fod 1350km o'r cyfanswm o 1400km eisoes wedi eu cwblhau.

Diogel ac ymarferol

Cafodd y llwybr ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, ynghyd 芒 16 awdurdod lleol a dau Barc Cenedlaethol.

Yn ogystal 芒 拢2 miliwn y flwyddyn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol, fe gafodd y cynllun bron 拢4m dros bedair blynedd o Ewrop.

Dywed CCGC fod gwelliannau i safon a chyfeiriad y llwybr yn parhau yn ystod 2012 a 2013 er mwyn sicrhau bod y llwybr yn dilyn yr arfordir mor agos ag sy'n ddiogel ac ymarferol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol