麻豆官网首页入口

Canolfan Gymraeg yn gwahodd noddwyr

  • Cyhoeddwyd
Tu fewn i hen dafarn y Saith SerenFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gr诺p yn gobeithio denu noddwyr er mwyn ail-agor hen dafarn

Mae trefnwyr sydd yn ceisio agor canolfan Gymraeg mewn hen dafarn yn Wrecsam yn gwahodd pobl i ymweld 芒'r adeilad ddydd Sadwrn.

Mae'r gr诺p cymunedol cydweithredol sydd am agor y ganolfan yn cynnal sesiwn agored er mwyn dangos yr hen dafarn i noddwyr posibl.

Y bwriad yw ail-agor y bar a'r gegin er mwyn darparu cynnyrch lleol a chwrw Cymreig.

Gobeithir cael swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod i fyny'r grisiau gyda phwyslais arbennig ar ddarparu lle ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn yr ardal.

'Ymateb bositif'

Dywedodd y cynghorydd Mark Jones, sydd yn cadeirio'r fenter: "Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd agored mis diwethaf a chawsom ymateb bositif iawn gan y rhai a ddaeth.

"Y brif sialens yw codi digon o arian i adnewyddu'r gegin, prynu stoc, a chyflogi rheolwr a staff.

"Dyna pam rydyn ni'n cynnal sesiwn agored arall er mwyn caniat谩u noddwyr i mewn i'r adeilad ddydd Sadwrn."

Gall noddwyr fuddsoddi cyn lleied 芒 拢100, meddai Mr Jones.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r dafarn yn dyddio o 1898 ac arferai fod yn sinema

Dywedodd hefyd eu bod wedi cael llawer o gymorth gan bobl Wrecsam.

"Mae brwdfrydedd am y syniad gan siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a rhieni sy'n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg wedi bod yn gefnogol iawn.

"Rydyn ni'n bwriadu'r adeilad i fod yn ganolfan ar gyfer pob peth Cymraeg yn y dref ac rydym yn ei weld fel etifeddiaeth barhaol o'r Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus iawn a gynhaliwyd yma ym mis Awst."

Bydd teithiau tywys o amgylch yr adeilad am 11am, 12pm, 1pm a 2pm ddydd Sadwrn 29 Hydref.