'Angen edrych ar gysondeb strategaeth economaidd y llywodraeth'

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Rhai cwmniau yn dal i gael grantiau er bod 'na argymhelliad i gael gwared arnyn nhw

Mae arbenigwr ar economi Cymru wedi codi cwestiynau am gysondeb strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, a hynny ar sail gwariant yn ystod pum mis cynta'r flwyddyn ariannol.

Mae dadansoddiad gan 麻豆官网首页入口 Cymru wedi dangos fod rhai cwmn茂au yn dal i dderbyn grantiau nad oes yn rhaid eu had-dalu, rai misoedd ar 么l i strategaeth economaidd newydd argymell cael gwared arnyn nhw.

Mae'r rheini yn cynnwys grant o bron i 拢200,000 tuag at agor gwesty 'boutique' newydd yng nghanol Caerdydd.

Ymhlith cwmn茂au eraill i dderbyn grantiau yr oedd The Authentic Curry Company; Bragdy Rhymni a nifer o gyflogwyr mawr fel Toyota a Corus.

Yn 么l Dr Martin Rhisiart, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Dyfodolion ac Arloesedd Ysgol Fusnes Morgannwg, mae'n anodd dod at wraidd strategaeth y llywodraeth, ar sail gwariant hyd yma eleni.

"Mae'n rhaid gofyn y cwestiwn hwn - oes yna gydlynu digonol fan hyn - a beth yw'r neges sy'n cael eu rhoi i'r mwyafrif mawr o fusnesau Cymru?

"Y math yna o eglurdeb sydd ei angen a dwi'n credu y byddai cwmn茂au Cymru i gyd yn gwerthfawrogi tir gwastad ble mae rheolau'r g锚m yr un peth i bawb," meddai.

'Dryswch'

Fe ychwanegodd fod yna ddiffyg dealltwriaeth o hyd ymhlith busnesau ynglyn 芒 strategaeth y llywodraeth o gefnogi rhai sectorau'n benodol yn yr economi Gymreig.

"Mae cyfathrebu'n allweddol," meddai.

"Mae yna rywfaint o ddryswch o hyd, dwi'n credu, o fewn y gymuned fusnes ynglyn 芒 pha mor gaeth yw'r sectorau yma, a beth sy'n debyg o ddigwydd iddyn nhw dros y blynyddoedd i ddod."

Ond mae'r dadansoddiad o'r gwariant wnaed yn gyhoeddus gan y llywodraeth ers mis Ebrill yn dangos bod mwyafrif yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "grantiau cyfredol i'r sector breifat" wedi ei roi i gynghorau, prifysgolion a chymdeithasau tai, yn hytrach na busnesau.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi bod wrthi'n astudio'r ffigyrau a gyhoeddwyd ar y we gan Lywodraeth Cymru ac sy'n gofnod o wariant ar bethau sydd wedi costio dros 拢25,000.

Fe gafodd perchennog gwesty yng Nghaerdydd, Jolyon Joseph, grant o 拢189,000 gan y llywodraeth tuag at gost troi adeilad gwag ar Heol y Gadeirlan yn westy moethus.

Fe wnaeth yr arian a gafodd wahaniaeth enfawr i'r profiad roedd yn gallu ei gynnig i ymwelwyr 芒 Chymru, meddai.

"Mae'r arian, i bob pwrpas, wedi troi adeilad a gwesty digon plaen yn lle Cymreig sy'n ysblennydd, rhywiol, anghyffredin.

"Mae'n adeilad hyfryd a hardd, a llawer o ofal ac o ofal wedi'i roi yn y gwaith ailwampio."

'Cefngoaeth allweddol'

Cynllun arall sydd wedi cael grantiau gan y llywodraeth yw Fferm Ffwrnais yn Nyffryn Conwy.

Y disgwyl yw y bydd y casgliad o adeiladau fferm o'r 18fed Ganrif ar Stad Bodnant yn agor gwanwyn nesaf fel canolfan newydd i fwyd Cymreig.

Yn 么l y perchennog, Michael McLaren, roedd cefnogaeth y llywodraeth yn allweddol i'r prosiect.

"Drwyddi draw mae'r prosiect yn mynd i gostio rhywle rhwng 拢6-拢7 miliwn ond rydyn ni'n aruthrol o lwcus i fod wedi cael grant sylweddol o Ewrop a chan Lywodraeth Cymru, rhyw ychydig dros 拢3 miliwn ac rydyn ni'n ddiolchgar dros ben amdano.

"Yn syml iawn, hebddo fe, fyddai'r cynllun yma ddim wedi digwydd a phe na bae wedi digwydd, fydden ni ddim yn creu'r hyn sy'n cyfateb i 40 o swyddi amser llawn a fydden ni ddim yn gwneud yr hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud i hybu bwyd Cymru ac i broffil bwyd Cymreig yn yr ardal hon."

Wrth ymateb i sylwadau Dr Rhisiart fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein strategaeth economaidd yn glir ac wedi'i ffocysu ar sectorau allweddol sydd 芒'r potensial i dyfu a llewyrchu yng Nghymru.

"Mae'r syniad yma o weithio drwy sectorau yn caniat谩u i ni dargedu'n harian tuag at ddiwydiannau allweddol, sydd o bwys mawr mewn cyfnod pan fo gwariant cyhoeddus yn cael ei dorri gan Whitehall.

"Fe ychwanegwyd tair sector yn ddiweddar i greu naw sy'n cael blaenoriaeth, gan gynnwys twristiaeth, adeiladu a bwyd a ffermio, fel cydnabyddiaeth o'r cyfraniad mawr maen nhw hefyd yn wneud i economi Cymru."

Mewn cyfres o adroddiadau drwy gydol yr wythnos fe fydd 麻豆官网首页入口 Cymru hefyd yn edrych ar wariant Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd a thrafnidiaeth.