Paneli solar: Newid t芒l yn 'bygwth swyddi'

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae'r diwydiant paneli solar yn cyflogi tua 25,000 o bobl yn y DU
  • Awdur, Alun Jones
  • Swydd, Newyddion Ar-lein

Mae'r cwmni sy'n noddi bwletinau tywydd S4C wedi dweud y bydd pobl yn colli eu swyddi yn y diwydiant ynni haul wedi i Lywodraeth San Steffan haneru'r taliadau mae cwmn茂au trydan yn eu talu i berchnogion tai sy'n cynhyrchu ynni'r haul.

Bydd y t芒l am drydan paneli solar ar dai yn gostwng o 43.3c y cilowat awr i 21c i unrhyw un sy'n cofrestru eu system ar 么l Rhagfyr 12.

Dywedodd cwmni PV Solar Solutions wrth 麻豆官网首页入口 Newyddion Ar-lein fod amseriad y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf "yn hynod o wael" a bod y cyfnod o rybudd yn waeth.

Sefydlwyd y cwmni ym mis Hydref 2010, gan gyflogi tri, ond ym mis Hydref eleni symudodd y cwmni i mewn i swyddfeydd 16,000 troedfedd sgw芒r ym Mae Caerdydd, gan gyflogi 90 o bobl.

Roedd y cwmni wedi bwriadu creu hyd at 300 o swyddi dros y 12 mis nesaf ond mae'r cyhoeddiad yn golygu bod rhaid ailfeddwl.

'Anystyriol'

Dywedodd llefarydd: "Fe fydd llawer o bobl yn colli eu gwaith o fewn y diwydiant.

"Yn y tymor hir rydym yn gallu deall pam y mae'r llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad ond mae'r cyfnod o amser y maen nhw wedi rhoi i'r diwydiant i weithredu cytundebau wedi bod yn ddifeddwl ac anystyriol i gwmn茂au, gweithwyr a chwsmeriaid."

Ond yn 么l y Gweinidog Newid Hinsawdd, Greg Barker AS: "Mae'r ffaith bod costau systemau solar ffotofolt盲ig yn cwympo yn golygu bod enillion i fuddsoddwyr yn ddwbl yr hyn a ragwelwyd ar gyfer y cynllun, sydd ddim yn darparu gwerth am arian.

"Os nad ydym yn gweithredu ar unwaith, fe fyddai'r holl gyllideb o 拢867m yn cael ei gwario o fewn misoedd."

Ychwanegodd y byddai'r t芒l newydd yn golygu y byddai cymorthdaliadau yn fwy tebyg i'r hyn a geir yn yr Almaen.

'Ymhell y tu 么l'

Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear: "Mae Greg Barker yn dweud ei fod am wneud cymorthdaliadau yn decach ond mae'r cyfraddau newydd yn golygu na fydd pobol yn gallu fforddio paneli solar.

"Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus ac mae miloedd o systemau wedi cael eu gosod.

"Fel popeth arall y dyddiau hyn mae'r llywodraeth yn dweud nad oes digon o arian ond rydym ni a'r diwydiant yn credu eu bod nhw'n torri'n 么l yn ormodol.

"Rydyn ni ymhell bell y tu 么l i wledydd eraill yn Ewrop fel yr Almaen ac mae'n siomedig iawn nad yw'r llywodraeth yn fodlon rhoi mwy o arian i ddatblygu ynni gl芒n fel hyn."