麻豆官网首页入口

Cyfarfod i 'ail-danio'r economi'

  • Cyhoeddwyd
Safle adeiladuFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gweinidogion am geisio dangos eu bod yn gweithredu i roi hwb i'r economi

Bydd y prif weinidog Carwyn Jones yn cynnal cyfarfod arbennig i ail-danio'r economi ddydd Mercher.

Gyda diweithdra yn uchel a thwf yn araf, bydd llywodrateh Cymru yn cwrdd gyda chynrychiolwyr busnes mewn cynhadledd afywio economaidd yng Nghaerdydd.

Mae gweinidogion yn brysio i nodi gweithgaredd i hybu twf.

Ond dywed gwrthwynebwyr nad yw llywodraeth Cymru yn defnyddio'i grym i gryfhau'r economi.

Mae Mr Jones wedi addo cyfres o gyhoeddiadau i helpu busnesau a chreu swyddi cyn diwedd y flwyddyn.

Er gwaeth toriadau yng nghyllideb Cymru ddaw o'r Trysorlys yn Llundain, mae Mr Jones yn mynnu fod Llafur yn defnyddio'i chyllideb i fuddsoddi 拢1.3 biliwn mewn isadeiledd eleni.

Adran fusnes

Daw'r honiad yn dilyn dadlau yn y Senedd pan gyhuddodd arweinydd Pland Cymru, Ieuan Wyn Jones, llywodraeth Cymru o beidio buddsoddi digon mewn gwaith adeiladu fydda'i cynorthwyo'r diwydiant adeiladu.

Ychwanegodd fod rhestr o gynlluniau gyhoeddwyd gan lywodraeth Cymru ddydd Llun yn cynnwys cynlluniau gafodd eu cyhoeddi gan y glymblaid Llafur-Plaid Cymru flaenorol.

Deellir fod arian ar gyfer adran fusnes yn rhan allweddol o drafodaethau gyda'r gwrthbleidiau wrth i lywodraeth leiafrifol Llafur geisio cael cymeradwyaeth i'r chyllideb.

Dros y penwythnos, fe gyhuddodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, y llywodraeth o fod yn "anllythrennog yn economaidd".

Yn y cyfamser, mae cyfarwyddwr CBI Cymru, David Rosser, wedi cael ei secondio i Adran Busnes, Mentergarwch, Technoleg a Gwyddoniaeth llywodraeth Cymru.

Bydd yn gweithio am chwe mis fel cyfarwyddwr mentergarwch a chwmniau angor.

Dywedodd Mr Rosser: "Mae busnesau yn cydnabod r么l llywodraeth Cymru wrth greu amgylchedd cystadleuol, ac yn gynyddol mae cwmniau yn teimlo bod ganddynt lawer i gyfrannu yn 么l.

"Mae cyfle go iawn i greu cynghrair bwerus, ac mae'n wych cael cyfle i helpu hynny i ddigwydd."

Dywedodd y gweinidog busnes, Edwina Hart: "Bydd ei brofiad yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei arwain gan y sector preifat ac yn canolbwyntio ar fusnes."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol