Cwmni 'ddim yn ystyried cau ffatri'

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae 500 o bobl yn cael eu cyflogi gan gwmni Sharp yn eu ffatri yn Llai

Mae un o swyddogion cwmni electroneg Sharp wedi gwadu eu bod yn ystyried cau eu ffatri lle mae paneli solar yn cael eu cynhyrchu.

Ond mae Andrew Lee, Pennaeth Gwerthiannau Ewrop Sharp Solar, wedi cadarnhau bod y cwmni yn adolygu unrhyw ehangu yn Llai ger Wrecsam.

Mae hyn wedi penderfyniad Llywodraeth San Steffan i leihau cymorthdaliadau ar gyfer trydan solar cartref.

Mae Sharp yn cyflogi 400 o bobl a 100 o weithwyr asiantaeth yn y gogledd ac fe agorodd y cwmni safle hyfforddiant i osodwyr paneli yn ddiweddar.

拢30尘

Yn gynharach eleni cyhoeddodd y cwmni byddai ehangu gwerth 拢30尘 yn Llai yn creu 300 o swyddi newydd.

Roedd Llywodraeth San Steffan wedi dweud y byddai newidiadau yn sicrhau dyfodol i'w cynllun trydan solar.

Mae'r cwmni wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog David Cameron yn amlinellu eu pryderon ac mae eu swyddogion yn bwriadu cyfarfod 芒 swyddogion Adran Ynni a Newid Hinsawdd yr wythnos nesaf.

Dywedodd Mr Lee fod adroddiadau papur newydd fod swyddi wedi cael eu colli yn anghywir.

Ond ychwanegodd fod llai o weithwyr asiantaeth yn cael eu cyflogi yn Llai oherwydd amrywiadau yn y farchnad.

Dywedodd fod y cynllun ehangu yn cael ei adolygu wedi penderfyniad y llywodraeth i leihau cymorthdaliadau paneli solar o Ragfyr 12 ymlaen.

Beirniadu

Fe feirniadodd y penderfyniad i leihau'r taliadau cyn i'r cyfnod ymgynghori.

"Maen nhw (y llywodraeth) wedi rhoi blynyddoedd i'r banciau newid eu ffordd o weithio ond maen nhw wedi gofyn i'n diwydiant ni wneud newidiadau ymhen chwe wythnos.

"Rydyn ni'n bryderus iawn am adolygiad cynhwysfawr y llywodraeth o'r tariff cyflenwi trydan.

"Hefyd rydyn ni'n ddig eu bod nhw'n dechrau torri'r cymorthdaliadau o Ragfyr 12 am fydd hyn yn cael effaith andwyol ar unigolion a busnesau sydd wedi trefnu eu cynlluniau'n barod."

Bydd y tariff newydd o 21c, sy'n fwy na hanner y tariff presennol o 43c, yn dod i rym o Ebrill 1 y flwyddyn nesaf.

Bydd y tariff yn cael ei dalu i unrhywun sy'n gosod system solar ar 么l Rhagfyr 12 eleni.

Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas y Cyflogwyr, y CBI, wedi beirniadu'r penderfyniad.

Miliynau o bunnoedd

Eisoes mae Cymdeithas y Cyflogwyr wedi rhybuddio y gallai'r cynllun i osod y dechnoleg ofynnol mewn cartrefi tlotach olygu cost o filiynau o bunnoedd i gynghorau.

Mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn wynebu dwy her gyfreithiol bosib gan Gyfeillion y Ddaear a chyfreithwyr sy'n cynrychioli gosodwyr paneli solar.

Dywedodd llefarydd ar ran yr adran: "Pe na baen ni wedi newid y drefn fe fyddai'r cyllid ar gyfer y tariff cyflenwi trydan wedi diflannu'n llwyr."