Cynllun i sefydlu trac rasio i Lyn Ebwy

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Gobaith y datblygwyr yw gweld y trac yn denu digwyddiadau fel y MotoGP

Fe allai trac rasio ceir gyda'r potensial i gynnal prif bencampwriaethau gael ei sefydlu yng nghymoedd y de.

Mae 'na drafodaethau yn cael eu cynnal ar gyfer trac ger stad ddiwydiannol Rasa yng Nglyn Ebwy.

Yn 么l y datblygwyr fe allai gynnal pencampwriaethau fel y MotoGP a'r World Touring Car a chreu miloedd o swyddi.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau bod 'na drafodaethau ond bod y manylion yn gyfrinachol.

Does 'na ddim cais cynllunio wedi ei wneud eto ond mae cwmni o'r enw Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd wedi ei sefydlu.

Canolfan arbenigol

Maen nhw wedi cael cefnogaeth gan gwmni ariannol o Lundain.

"Gallaf gadarnhau ein bod mewn trafodaethau manwl a phositif gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Blaenau Gwent yngl欧n 芒 chyflwyno canolfan arbenigol carbon isel ym Mlaenau Gwent," meddai'r llefarydd Paul Shackson.

"Fe fyddai o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn gweddnewid yr ardal a chreu miloedd o swyddi newydd.

"Nid dim ond adnoddau ar gyfer chwaraeon moduro fydd hwn ond fe fydd 'na fuddsoddiad sylweddol mewn ymchwil a datblygu a fydd yn rhoi de Cymru ar fap y sector moduro ym Mhrydain.

"Rydym yn gobeithio y bydd y trafodaethau wedi eu cwblhau yn fuan ac y bydd modd i ni ddatgelu'r cynlluniau yn llawn."

Dywedodd Cyngor Blaenau Gwent y bydd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru ddydd Llun i drafod y cynlluniau.

"Fe fyddai Cyngor Blaenau Gwent yn croesawu unrhyw ddatblygiad a fyddai'n dod 芒 swyddi o'r ansawdd uchel ac o fudd economaidd i'r ardal," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

"Mae'n rhan o'n hymdrechion i gefnogi cyfleodd gwaith, annog buddsoddiad a datblygu'r ardal mentergarwch gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar.

"Rydym yn cynnal trafodaethau am y ffordd orau ymlaen i gefnogi'r cais," ychwanegodd.

Dywedodd Mark James, sylwebydd moduro, fod ganddo deimladau cymysg am y cyhoeddiad.

"O nhw'n son am ddod i lefydd eraill, Pembre rhyw ddegawd yn 么l.

"Maen nhw'n pallu dod yn 么l nes bod rhywun yn buddsoddi mewn adeiladau, mewn pont neu dwnel i groesi'r trac.

"Felly dwi ddim yn gweld y gynulleidfa yn dod i rywle fel Glyn Ebwy.

"Byddwn i yn croesawu unrhyw beth fyddai'n cefnogi'r gamp yng Nghymru, ond pam ailddechrau mae yna lefydd yma yn barod, ym Mhenbre yn T欧 Croes."