麻豆官网首页入口

Protest am ddiffyg gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Tywysog Philip, LlanelliFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymgyrchwyr yn poeni y bydd mwy o wasanaethau'r ysbyty yn cael eu dileu

Mae ymgyrchwyr sy'n poeni y bydd gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, yn cael eu cwtogi wedi bod yn gwrthdystio y tu allan i gyfarfod o'r bwrdd iechyd.

Mae'r ymgyrchwyr yn poeni y bydd mwy o wasanaethau yn cael eu dileu wedi'r penderfyniad i symud y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a'r gwasanaeth mamolaeth i Gaerfyrddin.

Mae Hugh Evans, llawfeddyg sydd wedi ymddeol oedd yn arfer gweithio yn yr ysbyty, yn honni bod pobl yn gorfod teithio i gael "triniaethau syml".

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n arolygu gwasanaethau'r ysbytai sydd o dan eu rheolaeth yn Sir G芒r, Sir Benfro a Cheredigion, wedi datgan y byddan nhw'n cynnal ymgynghoriad yngl欧n ag unrhyw newidiadau.

'Newidiadau mawr'

Dywedodd Mr Evans, sy'n cefnogi'r ymgyrchwyr, fod gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip wedi eu dileu fesul un.

"Mae gwasanaethau llawdriniaeth, trawma, mamolaeth, pediatreg a llawdriniaeth ddeintyddol wedi eu dileu o'r ysbyty," meddai wrth 麻豆官网首页入口 Cymru.

"Mae gwasanaethau llawdriniaeth brys, llawdriniaeth fasgwlar, llawdriniaeth pibell gastroberfeddol a llawdriniaeth endosgopau frys wedi eu dileu yn ystod y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf."

Ychwanegodd Mr Evans y dylai gwasanaethau gael eu cynnal yn Llanelli pe baen nhw'n cael eu canoli oherwydd Llanelli yw'r dref fwyaf yn y tair sir sydd o dan reolaeth y bwrdd iechyd.

"Mae Llanelli yn ardal weddol ddifreintiedig ac nid oes gan bawb drafnidiaeth eu hunain," meddai Mr Evans.

"Mae pobl yn gorfod teithio 20 milltir i Gaerfyrddin i gael triniaethau syml.

"Ar hyn o bryd nid oes gennym wasanaethau sylfaenol yn Llanelli ar hyn o bryd.

"Mae pobl yr ardal hon am gael y gwasanaethau craidd y dylai cymuned o 100,000 o bobl dderbyn."

Ymgynghoriad

Yn gynharach yn y mis dywedodd y Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, y byddai rhaid canoli rhai gwasanaethau i wella gofal ond ychwanegodd na fyddai'r un ysbyty cyffredinol dosbarth yn cael ei israddio.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Fe fyddai'n gamgymeriad i ni wneud y cyhoeddiadau yn gyhoeddus ar hyn o bryd oherwydd rydyn ni'n dal i drafod y mater gyda'n clinigwyr a'n budd-ddeiliaid allweddol.

"Yn unol 芒'n dyletswyddau statudol fe fyddwn ni'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus eang ynghylch unrhyw opsiynau fydd yn golygu newidiadau mawr i'r gwasanaethau."

Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol eu pedwar ysbyty sef Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol