Technoleg i gyfieithu cofnodion

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae defnyddio peiriant cyfieithu i greu'r cofnodion Cymraeg wedi cael ei feirniadu o'r blaen

Cadarnhaodd Comisiwn y Cynulliad ddydd Iau ei fod wedi cytuno ar fframwaith newydd a fydd yn rheoli ei wasanaethau dwyieithog.

Bydd systemau cyfieithu peirianyddol, Google yn cael ei ddefnyddio gyda chyfeithwyr arbenigol yn gwirio a golygu'r gwaith.

Yn gynharach eleni dywedodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod y Comisiwn yn torri ei rheol iaith ei hun drwy beidio 芒 chyfieithu'r Cofnod i'r Gymraeg a galwodd Bwrdd yr Iaith ar y Comisiwn i ddarparu cofnod dwyieithog unwaith eto.

Bydd y Mesur Cynulliad drafft, a fydd yn rhoi sail statudol i ddyletswyddau'r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, yn cyflwyno'r trefniadau ar gyfer llunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd.

Penderfynodd y Comisiwn ailddechrau cyhoeddi Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion cyfarfod llawn y Cynulliad o fis Ionawr 2012.

Yr amcangyfri ydi y byddai'r gost o wirio cyfieithiad Google tua 拢110,000 y flwyddyn, llai na hanner y gost o gyfieithu'r Cofnod drwy gyflogi cyfieithwyr.

'Cofnod o safon'

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sydd 芒 chyfrifoldeb dros y Gymraeg:

"Drwy ddefnyddio technoleg ar y cyd 芒 chyfieithwyr proffesiynol, rydym yn hyderus y gallwn ddarparu Cofnod o safon o drafodion y Cyfarfod Llawn mewn modd effeithiol a chynaliadwy.

"Bydd y model rydym yn ei ddatblygu hefyd o fudd i sefydliadau eraill sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

"Drwy ddefnyddio technoleg i gyfieithu'r Cofnod, byddwn yn cynyddu cof y system a fydd ar gael i sefydliadau ac unigolion eraill ei ddefnyddio.

Cafodd y penderfyniad ei ddisgrfio fel "cam pwysig tuag at wireddu'r uchelgais o wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydliad gwirioneddol dwyieithog," gan Fwrdd yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd y Bwrdd: "Fe gynhaliom ni ymchwiliad statudol i'r penderfyniad i beidio 芒 darparu Cofnod cwbl ddwyieithog, ac rydym yn croesawu'r ffaith fod aelodau'r Comisiwn wedi gweithredu ar argymhellion yr ymchwiliad hwnnw yn fawr iawn.

"Edrychwn ymlaen at weld effaith y datblygiad hwn ar sefydliadau eraill sy'n gweithredu yn y Gymraeg ac ar ddatblygiad technoleg i gynyddu cofion cyfieithu.

Ymgynghoriad

Yn y cyfarfod ddydd Iau, bu'r Comisiynwyr yn ystyried yr ymatebion a ddaeth i law dros y tri mis diwethaf fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar wasanaethau dwyieithog Comisiwn y Cynulliad.

Mae'r darpariaethau eraill yn y Mesur drafft yn cynnwys:

  • Diffinio mewn cyfraith mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad;
  • Gofyniad i'r cynllun ymgorffori gweithdrefn ar gyfer mynd i'r afael 芒 chwynion bod y Cynulliad yn mynd yn groes i egwyddorion y cynllun;
  • Darpariaeth ar gyfer cynhyrchu adroddiadau monitro blynyddol a fydd yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad.