麻豆官网首页入口

Rhybudd gweinidog na fydd mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd

  • Cyhoeddwyd
Lesley GriffithsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Lesley Griffiths nad oes gan y gwasaneth opsiwn ond cyrraedd yr targedau

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud na fydd arian ar gael i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru pe bai'n mynd i ddyled.

Dywedodd Lesley Griffiths fod y blynyddoedd o gefnogi'r byrddau iechyd lleol ar ben a bod rheolwyr yn gwybod bod rhaid cyrraedd targedau ariannol.

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, bydd y byrddau yn derbyn arian o flaen llaw.

Ychwanegodd y gweinidog y byddai newid i'r modd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn eu gwneud yn fwy cynaliadwy.

Wrth gael ei chyfweld ar 麻豆官网首页入口 Radio Wales fore Gwener, gofynnwyd iddi a fyddai byrddau iechyd yn gorfod newid eu hymddygiad.

"Yn bendant. Cyn gynted ag y dechreuais ar y gwaith yma ym mis Mai, roedd hynny'n un o'r sgyrsiau cyntaf a gefais," meddai.

"Blwyddyn ar 么l blwyddyn, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae'n rhaid eu cynorthwyo'n ariannol.

Codi disgwyliadau

"Yr hyn yr wyf wedi ei wneud eleni yw llwyddo i gael arian at y byrddau yn gynt fel y gallen nhw edrych ar eu sefyllfa ariannol, ac rwyf wedi gorfod datgan yn glir iawn fod rhaid iddyn nhw gyrraedd targedau ariannol eleni.

"Does ganddo ni ddim mwy o arian ac maen nhw'n gwybod hynny felly maen nhw'n gwybod fod rhaid cyrraedd y targedau."

Ychwanegodd fod strwythur presennol gwasanaethau iechyd wedi gorfod newid oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, cyfyngiadau ariannol a disgwyliadau uwch gan gleifion.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhybuddio fod y gwasanaeth yng Nghymru yn wynebu setliad anoddach na gweddill y DU.

Mae cyllideb iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru - yr adran ddrytaf yn nhermau gwariant - yn wynebu toriad mewn termau real yn y blynyddoedd i ddod.

Mae byrddau iechyd yn cynllunio i ad-drefnu a gwella gwasanaethau, gyda'r tebygrwydd y bydd rhaid i rhai cleifion deithio yn bellach ar gyfer rhai triniaethau arbenigol.

Dywedodd Ms Griffiths ar raglen Good Morning Wales ei bod hi'n amser "i ail-gloriannu'r ddarpariaeth o lawer o'n gwasanaethau ac i newid ymddygiad a ffordd o feddwl pobl".

Ond pwysleisiodd y bydd ysbytai cyffredinol rhanbarthol yn cadw "r么l hanfodol".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol