麻豆官网首页入口

Cyllideb: Dwy blaid yn cytuno

  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dod i gytundeb yngl欧n 芒'r Gyllideb.

Ar Dachwedd 15 fe gollodd Llywodraeth Cymru bleidlais ar ei chynlluniau cyllido ar gyfer y flwyddyn nesa.

Dywedodd datganiad ddydd Gwener: "Mae'r cytundeb yn benllanw wythnosau o drafodaethau. Diben y trafodaethau oedd dyhead y ddwy blaid i sicrhau cyllideb ar gyfer pobl Cymru."

Deellir bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu cefnogi'r gyllideb ar 么l addewid o 拢20 miliwn ar gyfer grant amddifadedd i ddisgyblion.

Nod y cymhorthdal yw lleihau dylanwad tlodi ar berfformiad addysgol.

Bydd y cynnydd yn golygu bod cyfanswm y cymhorthdal yn codi i 拢32.04 miliwn ar gyfer 2012-13.

拢38.9尘

Dywedodd y datganiad fod y ddwy blaid wedi dod i gytundeb yngl欧n 芒 phecyn gwerth 拢38.9 miliwn i sbarduno'r economi a diogelu swyddi.

Fe fydd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn cyhoeddi mwy o fanylion am y pecyn mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Llun.

Ond dywedodd Alun Ffred Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, fod y cyhoeddiad yn newyddion drwg o ran yr economi yng Nghymru.

Ni fyddai Plaid Cymru, meddai, yn cefnogi cyllideb "oedd ddim yn cynnwys pecyn sylweddol o fesurau i hybu swyddi a busnesau" oherwydd y cyni economaidd.

Wrth ymateb dywedodd Arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, fod y cyhoeddiad yn newyddion drwg i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

"Bydd rhaid i ni fod yn ofalus a chraffu yn fanwl ar y pecyn.....

"Mae'n anffodus, tra bod eu cyd-aelodau yn San Steffan yn gwarchod y gyllideb iechyd yn Lloegr, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dewis peidio blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru."

Bydd y bleidlais derfynol ar y gyllideb ar Ragfyr 6.

Mae gan Lafur 30 AC a'r Democratiaid Rhyddfrydol 5.