Osborne: 拢216m i Gymru

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, George Osborne yn traddodi ei araith
  • Awdur, Aled ap Dafydd
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol

Fe fydd 拢216m o arian cyfalaf yn dod i Gymru o ganlyniad i Ddatganiad y Gyllideb y Canghellor, George Osborne.

Yn dilyn y penderfyniad i gymeradwyo cyllideb Llywodraeth Cymru fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan o'r trafodaethau fydd yn pennu lle y bydd yr arian yn cael ei wario.

Daw canran sylweddol o'r arian oherwydd penderfyniad Llywodraeth y DU i sefydlu cronfa newydd gwerth 拢5 biliwn fydd yn cael ei wario ar isadeiledd.

Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog ym Mae Caerdydd dywedodd Carwyn Jones y gallai cyfanswm o 拢300m ddod i Gymru.

Mae cwmn茂au o Gymru yn mynd i fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciadau oherwydd cynllun newydd gwerth 拢40bn - benthyciadau fydd yn cael eu cynnig ar delerau ffafriol.

Un o ddeg

Cyhoeddodd y Canghellor hefyd y byddai Caerdydd yn un o ddeg o ddinasoedd a fydd yn elwa yn sgil cronfa band eang newydd.

Bydd 600,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn derbyn codiad o 拢5.30 yn eu pensiwn gwladol.

Ond mae'r oed pan fydd pobl yn gymwys i dderbyn y pensiwn gwladol yn codi i 67 yn 2026. Roedd deddfwriaeth y Lywodraeth Lafur yn codi'r oed i 67 rhwng 2034 a 2036.

Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi na fydd cyflogau yn y sector cyhoeddus yn codi mwy na 1% yn y ddwy flynedd nesaf.

Wrth draddodi ei ddatganiad dywedodd y byddai hynny yn "anodd" i weithwyr y sector cyhoeddus.

Eisoes mae cyflogau yn y sector cyhoeddus wedi eu rhewi.

Fe fydd panel annibynnol, sy'n adolygu cyflogau, yn cynnig argymhellion ym mis Gorffennaf a ddylai cyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus amrywio o ranbarth i ranbarth.

Yn arafach

Dywedodd y Canghellor y byddai economi'r DU yn tyfu'n arafach na'r disgwyl ac y byddai rhaid benthyg llawer mwy na'r hyn gafodd ei broffwydo yng Nghyllideb mis Mawrth.

Roedd disgwyl i'r economi dyfu 0.9% eleni, meddai, 0.7% y flwyddyn nesaf a 2.1% yn 2013

Dros y tair blynedd nesaf bydd y llywodraeth yn benthyg 拢112bn yn fwy nag a dybiwyd.

Mae'r cynlluniau i godi 3c yn ychwanegol ar bris petrol ym mis Ionawr wedi eu canslo a chodiad o 3c yn hytrach na 5c fydd yn dod i rym ym mis Awst 2013.

Dywedodd y Canghellor fod gobeithion y DU o osgoi ail ddirwasgiad i raddau helaeth yn dibynnu ar yr argyfwng yng ngwledydd yr Ewro.