Addysg uwch: Cyhoeddi cynlluniau

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Argymhelliad: Uno Prifysgol Cymru, Casnewydd, gyda Phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd

Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi datgelu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol addysg uwch yng Nghymru, gan alw am "sefydliadau cryf, cynaliadwy a llwyddiannus".

Ym mis Mawrth rhoddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gyngor ynghylch strwythur y sector addysg uwch yng Nghymru yn ei adroddiad - Strwythur Prifysgolion yng Nghymru yn y Dyfodol.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf a gwahoddodd y gweinidog y rhai 芒 diddordeb yn y sector i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig am argymhellion y cyngor cyllido.

Dywedodd y llywodraeth fod bron 400 ymateb wedi dod i law.

Derbyn argymhellion

Dywedodd y gweinidog ei fod wedi ystyried y materion gododd yn yr ymatebion a'i fod wedi derbyn argymhellion canlynol y cyngor cyllido:

  • Dylai Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe barhau i ddatblygu eu potensial sylweddol ar gyfer ymchwil a chydweithio;
  • Dylai Aberystwyth a Bangor barhau i gryfhau eu cynghrair strategol, er nad oes disgwyl ar hyn o bryd iddyn nhw uno'n ffurfiol;
  • Dylai Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe uno fel yr oedden nhw wedi bwriadu, a dylen nhw hefyd uno 芒 Phrifysgol Cymru.

Mae'r cyngor cyllido hefyd yn argymell y dylai Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, uno.

Yn adroddiad y cyngor cyllido mae achos cryf o blaid uno'r sefydliadau hyn. Dywedodd y byddai'n gyfle i "sefydlu un brifysgol newydd gref, gystadleuol yn y de-ddwyrain".

Mewn datganiad dywedodd y gweinidog ei fod yn ystyried derbyn yr argymhelliad hwn ar yr amod bod ymgynghori trylwyr 芒'r sefydliadau dan sylw ynghylch y syniad o sefydlu prifysgol fetropolitan newydd yn y de-ddwyrain gyda champysau yn y Cymoedd, Caerdydd a Chasnewydd.

Dywedodd Undeb y Colegau a Phrifysgolion eu bod yn croesawu'r brifysgol newydd yn y de-ddwyrain.

'Sefydlogrwydd'

"Fe fyddai hyn yn creu sefydlogrwydd yn y sector yn y rhan hon o Gymru," meddai Lleu Williams o'r undeb.

Ond dywedodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Nghymru, Luke Young: "... wrth i'r sefydliadau gwahanol drin a thrafod y manylion, ni ddylid colli golwg ar fater hollbwysig, y myfyrwyr y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw."

Mae Cadeirydd Llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Barbara Wilding, wedi dweud y byddai'r cyhoeddiad yn cael ei drafod yn eu cyfarfod nesa.

Dywedodd y gweinidog ei fod wedi ystyried cynigion y dylai meddygaeth fod yn achos arbennig.

Y rheswm am hyn oedd datblygiadau addysg meddygaeth ers i gynigion y cyngor cyllido gael eu cyhoeddi.

Adolygiad

Mae'r gweinidog wedi gwrthod yr argymhelliad y dylai Prifysgol Glynd诺r fabwysiadu strwythur gr诺p a reolir gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Yn lle hynny mae wedi cynnig comisiynu adolygiad o'r ddarpariaeth addysg uwch yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ac fe ddywedodd y byddai cyhoeddiad pellach am hyn maes o law.

"Mae'r angen am newid sylfaenol ac aildrefnu'r system addysg uwch yng Nghymru wedi ei gydnabod ers blynyddoedd.

"Roedd ein polisi cyffredinol, Er Mwyn Ein Dyfodol, yn cydnabod hyn hefyd, gan alw am newid pellgyrhaeddol yn si芒p a strwythur addysg uwch yng Nghymru, ac yn y modd y'i darperir.

"Rydym wedi ymrwymo i gael nifer fach o brifysgolion cryfach, sy'n fwy cynaliadwy ac mewn gwell sefyllfa i ddiwallu anghenion dysgwyr a'r economi yng Nghymru."