麻豆官网首页入口

Ap锚l ASEau dros Bradley Manning

  • Cyhoeddwyd
Poster Bradley ManningFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae achos Bradley Manning wedi denu sylw ar draws y byd

Mae dau Aelod Seneddol Ewrop o Gymru wedi ymuno gyda nifer o'u cydweithwyr i leisio pryderon am driniaeth America o'r milwr Bradley Manning.

Bydd y dadansoddwr o America, a fagwyd yn Sir Benfro, yn ymddangos mewn llys yn ddiweddarach y mis hwn ar gyhuddiad o basio gwybodaeth sensitif i wefan Wikileaks.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa gan luoedd arfog America ers iddo gael ei arestio ym mis Mai 2010.

Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, fod triniaeth Mr Manning bellach yn fater pwysig o hawliau dynol.

Yn ystod ei gyfnod dan glo yng ngharchar milwrol Quantico, Virginia, honnwyd iddo gael ei gadw ar ei ben ei hun am 23 awr y dydd, ac yn aml yn gorfod cysgu heb ddillad na dillad gwely.

Dywedodd Ms Evans: "Rwy'n credu y byddai unrhyw un sy'n darllen am yr amodau y mae'n cael eu cadw ynddynt yn bryderus.

"Mae'r cyfan allan o bob rheswm wrth feddwl am y cyhuddiadau y mae'n wynebu."

Mae llythyr agored wedi ei yrru at yr Arlywydd Obama sydd wedi ei arwyddo gan 60 aelod Senedd Ewrop gan gynnwys Ms Evans a'r aelod Llafur dros Gymru, Derek Vaughan.

Y gosb eithaf

Mae'r llythyr yn galw ar Mr Obama i ganiat谩u i Mr Manning gyfarfod gyda chofnodwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar arteithio, Juan M茅ndez.

Mae'r llythyrwyr hefyd yn dweud eu bod yn bryderus fod y milwr wedi ei gyhuddo o "gynorthwyo'r gelyn" - trosedd allai arwain at y gosb eithaf yn yr Unol Daleithiau.

Ychwanegodd Ms Evans ei bod yn gobeithio y byddai'r llythyr yn cael ei ystyried yn llawn wrth i ddyddiad yr achos agos谩u.

"Mae hawliau dynol yn fater y mae Senedd Ewrop wedi brwydro'n galed iawn i amddiffyn," meddai, "ac yn rhywbeth yr ydym yn teimlo fod gennym ddyletswydd i'w warchod ar lwyfan fyd-eang."

Aeth Bradley Manning, 23 oed o Oklahoma, i Ysgol Tasker Millward yn Hwlffordd lle'r oedd yn byw gyda'i fam.

Mae'n wynebu cyhuddiad o basio cannoedd o filoedd o ddogfennau diplomyddol i wefan Wikileaks oedd yn manylu am weithredoedd y fyddin yn Irac ac Afghanistan.

Dywed cyfreithwyr Mr Manning eu bod yn disgwyl i achos cychwynnol ddechrau ar Ragfyr 16, ac yna fe fydd cadfridog milwrol yn penderfynnu a fydd yn bwrw 'mlaen gydag achos llawn.