Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ad-drefnu uwch reolwyr Cyngor Sir Ynys M么n
Bydd y comisiynwyr sydd bellach yn rhedeg Cyngor Sir Ynys M么n yn ad-drefnu uwch-reolwyr yr awdurdod mewn ymgais i foderneiddio a gwneud arbedion ariannol.
Fel rhan o'r ad-drefnu bydd adran Gwasanaethau Corfforaethol yr awdurdod yn cael ei chryfhau.
Does dim manylion o'r ad-drefnu wedi cael eu cyhoeddi gan y byddan nhw'n mynd gerbron Pwyllgor Penodi'r awdurdod, y tu 么l i ddrysau caeedig ddydd Iau, Rhagfyr 8.
"Mae'n rhaid i Ynys M么n geisio newid y ffordd mae'n gweithio yng ngoleuni'r her ariannol fawr mae'n ei wynebu," meddai un o'r comisiynwyr, Byron Davies.
"Mae newidiadau i strwythur cyfundrefnol ac effeithlonrwydd cost y cyngor yn hanfodol os ydym am gadw fyny gyda threfniadau llywodraeth leol fodern a darparu gwasanaethau effeithiol i drigolion a chymunedau'r Ynys.
"Rhaid pwysleisio nad yw'r adolygiad yma yn adlewyrchiad ar unigolion.
"Fel Comisiynwyr, rydym yn credu y bydd ad-drefnu'r strwythur cyfundrefnol yn cynrychioli buddsoddiad yn nyfodol M么n ac, o fewn amser, yn galluogi'r awdurdod yma i gyfrannu'n llawn tuag at agenda cydweithio Llywodraeth Cymru ar effeithlonrwydd ac arbed costau ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol.
Beirniadaeth
"Bydd y broses ad-drefnu hefyd yn ein galluogi i adeiladu ar y cynnydd presennol sydd yn cael ei wneud gyda Chynghorwyr, Swyddogion ac Undebau er mwyn sicrhau fod yr Awdurdod yma'n cael ei redeg mewn ffordd effeithiol," ychwanegodd.
Fe fydd y newid i'r adran Gwasanaethau Corfforaethol yn dilyn beirniadaeth mewn sawl adolygiad yn ddiweddar.
Dyma'r adran sy'n darparu nifer o wasanaethau cymorth canolog yr awdurdod.
Bwriad y comisiynwyr yw cynnig gweithredu'r broses ad-drefnu i'r strwythur y flwyddyn nesaf.