麻豆官网首页入口

Prifysgolion Aberystwyth a Bangor am gydweithio

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn cydweitho'n agosach gyda Phrifysgol Aberystwyth ers 2006

Mae prifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi cyhoeddi Cynghrair Strategol newydd fydd yn cynyddu'r cydweithio rhwng y ddau sefydliad.

Mae hyn yn dilyn cyfarwyddiadau gan Lywodraeth Cymru sy'n gofyn am ragor o gydweithrediad a chyfuno rhwng prifysgolion Cymru er mwyn creu 'model cynaliadwy' i'r sector addysg uwch.

Ond mae'r Ysgrifennydd Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi dweud nad yw'n disgwyl i Aberystwyth a Bangor uno fel un sefydliad 'ar hyn o bryd'.

Bydd y cynghrair newydd yn adeiladu ar sail y Bartneriaeth Ymchwil a Menter a sefydlwyd gan y ddwy brifysgol yn 2006 am 拢10.9m ac a ariannwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Creu gwerth 拢11m o ymchwil ychwanegol dros bum mlynedd oedd y nod, ond llwyddodd y bartneriaeth ddenu 拢53m o gyllid ymchwil ychwanegol.

'Sawl her'

Dywedodd yr Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, a Chadeirydd Addysg Uwch Cymru:

"Yn sgil y cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch ffurf Addysg Uwch yng Nghymru yn y dyfodol, mae'r cynghrair strategol newydd hwn rhwng Bangor ac Aberystwyth yn adlewyrchu ei safbwynt ef ac yn amlygu ein bwriad ni i ddal ati i weithio'n ddygn gyda'n gilydd ar ystod ehangach fyth o faterion, er budd y naill sefydliad a'r llall.

"Mae sawl her yn wynebu'r Gogledd a'r Canolbarth, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.

"Mae ein dwy Brifysgol ni mewn sefyllfa dda iawn i allu helpu i wella bywydau pawb yn y rhanbarthau hyn, ac edrychaf ymlaen at gydweithio 芒 Llywodraeth Cymru i ddwyn y maen hwn i'r wal."

Bydd y cydweithio yn mentro i feysydd megis strategaethau ar y cyd i Ddysg ac Addysgu, Menter a Chyswllt 芒 Chyrff Allanol, ehangu cyfranogiad, a chynllunio rhanbarthol.

Bydd hefyd cydweithio o fewn gwasanaethau'r Gymraeg, adnoddau dynol a gyrfaoedd a chyflogadwyedd.

Ffrindiau pennaf

Ychwanegodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae llofnodi'r Cynghrair Strategol hwn yn garreg filltir o bwys yn y berthynas ardderchog rhwng prifysgolion Aberystwyth a Bangor.

"Mae'r ddau sefydliad yn 'ffrindiau pennaf' ers blynyddoedd, ac fe fyddwn ni'n aros felly; rydym yn cysylltu a rhyngweithio'n gadarnhaol 芒'n gilydd, yn rhannu diddordebau, yn rhannu'r un amcanion, ond eto gallwn ddal ati i gystadlu 芒'n gilydd mewn modd cyfeillgar.

Llofnodir y Cynghrair Strategol newydd yn yr adolygiad ar y Bartneriaeth Ymchwil a Menter ar Ddydd Mercher, 7 Rhagfyr 2011 yng Nghaerdydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol