Crwner: Beirniadu'r gwasanaeth ambiwlans

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Arhosodd Jacqueline Davies am 41 munud cyn i ambiwlans gyrraedd i'w helpu

Mae crwner wedi datgan y gallai "methiant arwyddocaol" gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi arwain at farwolaeth fenyw arhosodd 41 munud am ambiwlans wedi iddi gwympo yn ei chartref.

Bu farw Jacqueline Davies, 49 oed o Drefynwy, naw niwrnod yn ddiweddarach o niwed i'r ymennydd a mwy na thebyg o lid yr ysgyfaint.

Mae ei mab, Mathew Davies, am i'r ymddiriedolaeth ambiwlans ddysgu gwersi yn sgil marwolaeth ei fam.

Dywed Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu bod wedi gwneud nifer o welliannau i'r gwasanaeth ers mis Ionawr.

Rhosan ar Wy

Clywodd y cwest fod nifer o ffactorau wedi achosi oedi cyn i Mrs Davies dderbyn triniaeth pan gwympodd yn ei chartref ym mis Ionawr eleni.

Clywodd y cwest nad oedd sifft yn orsaf ambiwlans Trefynwy wedi ei gyflenwi a phan gyrhaeddodd parafeddyg methodd y cerbyd ymateb ar frys (CYF) ddechrau am nad oedd y batri wedi cael ei wefru.

Derbyniodd Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr alwad am help ac o ganlyniad fe gafodd ambiwlans ei anfon o Rosan ar Wy, 11 milltir o gartref Mrs Davies.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd David Davies ei fod yn 'bryderus iawn' ynghylch yr achos

Cafodd Mrs Davies ei chludo gan yr ambiwlans hwnnw i Ysbyty Neville Hall yn Y Fenni cyn iddi gael ei throsglwyddo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg lle bu farw ar Ionawr 2

Dywedodd dirprwy crwner Pen-y-bont ar Ogwr a Chymoedd Morgannwg, Wayne Griffiths, fod "methiant arwyddocaol" wedi bod o fewn yr ymddiriedolaeth ambiwlans .

Wrth iddo gofnodi rheithfarn naratif dywedodd Mr Griffiths y gallai'r oedi wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai wedi achosi oedi cyn i'r ymddiriedolaeth ambiwlans ymateb i alwadau wedi cyfrannu at farwolaeth Mrs Davies.

'Methiant systemig'

Ychwanegodd y gallai esboniad "annerbyniol" pam nad oedd cerbyd ymateb ar frys (CYF) ar gael hefyd wedi cyfrannu at ei marwolaeth.

Yn dilyn y cwest dywedodd mab Mrs Davies, Mathew Davies: "Mae hyn wedi cadarnhau beth yr oedden ni'n gwybod yn barod.

"Mae'r profiad hwn wedi bod yn glwyfus iawn.

"Rydyn ni'n gwybod y gallai marwolaeth fy mam wedi cael ei hatal ac roedd hyn yn fethiant systemig arweiniodd at esgeulustod."

Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn hollbwysig i CYF gael ei leoli yn Nhrefynwy drwy'r amser.

"Mae CYF fod yn Nhrefynwy ond bob tro mae'r orsaf ambiwlans yn cael galwad o rywle arall yn Sir Fynwy mae'n rhaid iddynt fynd 芒'r cerbyd i leoliad allai fod 30 milltir i ffwrdd," meddai.

"Mae gen i restr sy'n dangos bod pobl wedi gorfod aros am gyfnodau hir.

"Nid yw'r system gyfredol yn gweithio yn enwedig am fod Sir Fynwy ar y ffin.

"Mae angen buddsoddiad mewn CYF ar gyfer Trefynwy na fydd yn teithio mwy na 5 milltir i ffwrdd o'r dref am fod 10,000 o bobl yn byw yma."

'Cyfarfod brys'

Mae Aelod Seneddol Sir Fynwy, David Davies, yn cefnogi Mr Davies ac mae'r AS am atebion gan yr ymddiriedolaeth.

"Rwy'n bryderus iawn yn dilyn darganfyddiadau'r crwner yn ystod y cwest," meddai David Davies.

"Rydw i wedi cael fy siomi gan fethiant systemig Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddarparu ymateb addas oedd mewn amser.

"Rwy'n credu y gallai marwolaeth Jackie wedi cael ei hosgoi pe bai'r gwasanaethau meddygol brys wedi cyrraedd yn gynt."

Dywedodd yr Aelod Seneddol fod gan Sir Fynwy'r amseroedd ymateb ambiwlansys gwaethaf yng Nghymru ac roeddent ymysg y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.

"Mae'n amlwg fod gan y gwasanaeth ambiwlans broblemau trefniadaeth ac rydw i wedi gofyn am gyfarfod brys 芒 phrif weithredwr yr ymddiriedolaeth (Elwyn Price-Morris) i drafod y mater."

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu bod yn derbyn gosodiadau'r crwner gan gydymdeimlo 芒 theulu Mrs Davies.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau diogel o safon uchel yn Sir Fynwy ac rydyn ni wedi gwneud nifer o welliannau i'n gwasanaethau ers mis Ionawr.

"Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno trefniadau ar y cyd gyda Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr i sicrhau ein bod yn ymateb mewn amser i bob achos brys lle mae bywyd yn y fantol ac rydyn ni wedi arolygu ein harfer gwaith i sicrhau bod genyn ni gyflenwad llawn yn ystod cyfnodau prysur."

"Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod ein staff yn diogelu bod bob cerbyd ambiwlans mewn cyflwr gweithredol i ymateb i unrhyw alwad."

Dywedodd yr ymddiriedolaeth eu bod yn cydweithio 芒 byrddau iechyd lleol i leihau a dileu unrhyw oedi ynghylch trosglwyddo cleifion".

"Mae gwelliannau eraill yn cynnwys datblygu gwasanaeth clinigol dros y ff么n i osgoi cludo cleifion i'r ysbyty heb eisiau a datblygu nifer o gynlluniau gofal amgen i gynorthwyo cleifion sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi neu yn eu cymunedau."